Darren Millar
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi ffigyrau sy’n dangos fod amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys y wlad wedi cynyddu eto.
Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, Darren Millar, nad yw’r llywodraeth wedi cwrdd gyda’u targedau ers tair blynedd, a bod pethau wedi gwaethygu eto ym mis Medi.
“Ar ôl tair blynedd o fethu gyda chwrdd gyda’u targed pedair awr, dyw’r ffigyrau heddiw ddim yn syndod o gwbl yn anffodus,” meddai.
“Ond beth sy’n hynod o bryderus yw bod yr holl gynnydd yr oedden ni wedi ei weld wedi diflannu a bod amseroedd aros wedi cynyddu, a hynny er bod yna lai o gleifion wedi bod yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys.”
‘Y gaeaf yn dod’
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am Amser a Dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, heddiw.
Mae’r ystadegau yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod rhwng Medi 2010 a Medi 2011.
Mae’r ffigyrau yn dangos fod 10% o gleifion wedi treulio dros bedair awr yn yr adrannau rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u cyhoeddi.
Roedd 2.2% wedi treulio dros wyth awr yn yr adrannau rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau.
Dywedodd Darren Millar fod y ffigyrau yn destun pryd cyn cyfnod prysurach y gaeaf.
“Dyw hyn ddim yn ddechrau da cyn y gaeaf – cyn bo hir bydd y nifer y sy’n mynd i’r adrannau damweiniau ac achosion brys yn cynyddu’n sylweddol.
“Mae disgwyl mewn adran damweiniau ac achosion brys am amser hir yn brofiad anghyfforddus a gofidus, yn enwedig i’r henoed, plant a phobol sy’n dioddef o anhwylderau hirdymor.
“Mae angen i’r Gweinidog Iechyd esbonio pam fod amseroedd aros wedi llithro a gwneud ei gorau i fynd i’r afael â hynny.”