Fel rhan o Gyllideb y Canghellor Rishi Sunak, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £360m ychwanegol i’w chyllid er mwyn cefnogi twf economaidd Cymru.

Dywed y Canghellor y bydd yr arian ychwanegol galluogi Llywodraeth Cymru i ffocysu ar flaenoriaethau pobol yng Nghymru.

Mae Rishi Sunak hefyd wedi cyhoeddi mesurau i ddelio ag effaith coronavirus ar economi’r Deyrnas Unedig, gyda Llywodraeth Cymru’n derbyn arian ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, pobol fregus, ac i leddfu’r gost i fusnesau.

Mae £55m wedi’i addo ar gyfer Cytundeb Twf Canolbarth Cymru sydd â’r bwriad o fuddsoddi a rhoi hwb economaidd i’r canolbarth.

A bydd y Trysorlys yn sefydlu presenoldeb yng Nghymru er mwyn “sicrhau bod blaenoriaethau Cymreig yn ganolog i benderfyniadau’r Llywodraeth.”

Roedd yno newyddion da hefyd i S4C wrth i’r Canghellor gyhoeddi y bydd y sianel yn cael ad-daliad am y dreth ar werth mae’n talu am ei chostau, sy’n cyfateb i ryw £15m o Ebrill 2021 ymlaen.

Ffordd osgoi

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn clustnodi £10m ar gyfer ymgynghoriad ar gyfer ffordd osgoi ar y A483 ger y ffin rhwng Pant a Llanymynech.

Mae Craig Williams, yr aelod seneddol lleol, yn croesawu’r cyhoeddiad hwn gan ddweud fod “hon yn foment wych a hanesyddol i Sir Drefaldwyn”.

“Mae’r ymgyrch am ffordd osgoi rhwng Pant a Llanymynech wedi bodoli ers degawdau, ac rwy’n talu teyrnged i grwpiau megis Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Pant a Llanymynech sydd wedi gweithio’n ddiflino am nifer o flynyddoedd,” meddai.

Nodwedd arall o’r cynllun yma yw gwneud gwelliannau sylweddol i lonydd ar hyd yr A5 wrth ddod mewn i Bowys a Gogledd Cymru.

“Gwnaethom addewid i bobol Cymru ein bod am adeiladu gwlad decach, fwy llewyrchus ac unedig – ac mae’r Gyllideb yma’n rhoi’r sylfaen am ddegawd o dwf economaidd ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai Rishi Sunak.

Addewidion eraill sy’n berthnasol i Gymru

Dyma rai materion eraill a gafodd eu crybwyll yn y Gyllideb heddiw (dydd Mercher, Mawrth 11) fydd yn effeithio Cymru.

  • Cyflwyno band llydan sydd â gallu gigabit i’r ardaloedd mwyaf anodd i’w cyrraedd, yn ogystal â chynllun i wella cysylltedd 4G ar draws y Deyrnas Unedig.
  • Gwella hygyrchedd gorsaf drenau’r Drenewydd a Phowys.
  • Bydd De Cymru yn derbyn £12m a Sir Benfro £4m i ariannu band llydan ffibr.
  • Cefnogi adolygiad economaidd annibynol o’r Porth Gorllewinol sy’n ymestyn ar draws Cymru a Gorllewin Lloegr.

Ymateb yr Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r Gyllideb.

“Mae’r Gyllideb yma’n dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw ei addewid i godi lefel gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig a sicrhau ffyniant i Gymru,” meddai.

“O gefnogaeth ariannol i ddinasoedd a chytundebau twf, y ffocws ar brosiectau isadeiledd, cefnogaeth i ddiwylliant Cymreig gyda rhyddhad treth i S4C, i’r codiad sylweddol mewn pŵerau gwario i Lywodraeth Cymru, mae hon yn Gyllideb sydd â Chymru’n ganolog.”