Mae llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn galw ar y cyd ar i Lywodraeth Prydain drafod gyda nhw cyn dod i gytundeb â’r Undeb Ewropeaidd ynghylch Brexit.

Daw’r alwad yn dilyn cyfarfod yn Llundain ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 10) rhwng sawl aelod o’r llywodraethau datganoledig.

“Cyn i’r gyfres nesaf o negodiadau gael eu cynnal yn ddiweddarach y mis hwn, fe wnaethom gytuno y bydd rhaid cael proses ystyrlon, cynhwysfawr a thryloyw i’r llywodraethau datganoledig allu dylanwadu ar safbwynt negodi’r DU – rhywbeth sy’n amlwg heb ddigwydd hyd yma,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.

Pryderon penodol

“Bydd y negodiadau hyn yn cael effaith sylweddol a pharhaol ar bobol, cymunedau a busnesau ledled y Deyrnas Unedig, ac mae gan y llywodraethau datganoledig gyfrifoldeb neilltuol dros sicrhau bod buddiannau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo,” meddai wedyn.

“Mae gan bob un o’n Llywodraethau ei phryderon penodol ac mae’n rhaid i’r rhain gael eu cymryd o ddifrif, gan roi’r cyfle i ddylanwadu’n uniongyrchol ar safbwynt negodi’r DU.

“Dim ond wyth diwrnod sydd tan y gyfres nesaf o negodiadau, felly mae angen i Lywodraeth y DU fynd ati ar fyrder i ymgysylltu’n ystyrlon ac yn gadarnhaol ar y mater hwn ar bob lefel – gan roi’r cyfle priodol i bob Llywodraeth helpu i benderfynu ar safbwynt y DU yn y negodiadau mwyaf arwyddocaol ers degawdau.”