Dydy sawl cynhyrchydd sebon lleol yn y gogledd ddim yn gweld llawer o wahaniaeth yn eu gwerthiant yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion o coronavirus yng Nghymru.

Mae ymateb y cyhoedd i’r firws yng ngwledydd Prydain yn golygu bod eitemau hylendid yn yr archfarchnadoedd yn gwerthu allan yn gyflym, gan gynnwys sebon hylif, a bod gwerthiant yn cael ei reoli’n ofalus wrth gyfyngu cwsmeriaid i un botel yr un.

Yn sgil hynny, gellid disgwyl y byddai pobol yn chwilio am ffyrdd eraill o gael eu dwylo ar fathau gwahanol o sebon.

Fe fu golwg360 yn holi dau wneuthurwr lleol, sef Soap Mine ym Meddgelert a Cwt Gafr ym Mhen Llŷn am effaith yr argyfwng ar eu busnesau.

Ond yn ôl y ddau, does dim llawer o newid wedi bod yn eu gwerthiant, gydag un gwneuthurwr yn awgrymu bod pobol yn dueddol o ymddiried mwy mewn sebon hylif potel rhatach nag mewn bariau sebon naturiol.

“Rydyn ni wedi gweld ychydig o newid, ond dim rhyw lawer eto a dweud y gwir,” meddai Vicky Hinde, perchennog y Soap Mine.

“Ond mae’n sebon i’n dipyn drutach na’r sebonau yn yr archfarchnadoedd, a hefyd mae llawer o bobl yn dal i gredu mwy yn y poteli o sebon hylif.”

Ac yn ôl y Cwt Gafr, cwmni sebonau llaeth gafr o Ben Llŷn, mae ganddyn nhw eu cwsmeriaid arferol sydd yn “cadw stoc i fyny, ond dim byd rhy ‘drastig’.”