Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn gobeithio codi gwaharddiad ar gig oen o Gymru wrth ymweld â’r wlad heddiw ac yfory.

Mae’n rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cysylltiadau busnes ac addysg yn y wlad.

Heddiw bydd yn cwrdd â gweinidogion Llywodraeth China i weld sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i hyrwyddo buddiannau Cymru yno.

Mae’n gobeithio trafod hyrwyddo busnesau ac addysg uwch Cymru, a hefyd godi’r gwaharddiad ar allforio cig oen.

Bydd yn dadlau achos Cymru wrth gwrdd ag un o uwch swyddogion y corff sy’n rheoli mewnforio ac allforio bwyd i dir mawr China, sef Goruchwylio Ansawdd, Arolygu a Chwarantîn (AQSIQ).

Bydd cynrychiolwyr o’r sector diwydiant a’r sector addysg yng Nghymru yn bresennol gyda’r Prif Weinidog.

“Dw wrth fy modd o fod yma yn Beijing ar fy ymweliad swyddogol cyntaf â China yn Brif Weinidog Cymru,” meddai Carwyn Jones.

“Mae Prydain a China wedi cytuno i ddyblu maint eu masnach â’i gilydd i $100 biliwn erbyn 2015, a dw i yma i wneud yn siŵr bod Cymru yn elwa ar hynny.

“Ein nod fel llywodraeth yw parhau i godi proffil Cymru yn China. Mae ein hagwedd yn un hollol bositif, ond gyda phoblogaeth o dair miliwn, rydyn ni’n ddigon bach hefyd i gynnig gwasanaeth cyfeillgar sy’n rhoi sylw unigol.

“Mae ein hagwedd a’n hysbryd yn golygu ein bod yn gallu cystadlu yn erbyn rhai o gystadleuwyr cryfaf y byd, ac ennill. Rydyn ni’n cynnig llwyfan ddelfrydol ar gyfer gwasanaethu’r farchnad Ewropeaidd ehangach.”

China oedd y nawfed ar restr partneriaid masnachu mwyaf Cymru, ac roedd ei mewnforion o Gymru yn werth £162 miliwn yn 2009. Yn 2010, tyfodd y ffigwr 42% i £230 miliwn.

Os yw masnach Cymru â Hong Kong a Taiwan yn cael ei chynnwys hefyd, £500 miliwn yw’r ffigur ar gyfer 2010.

Yr ymweliad yn parhau

Yfory,  bydd y Prif Weinidog yn mynd i seremoni gyda Maer Beijing, Guo Jinlong, i arwyddo cytundeb newydd â Llywodraeth Ddinesig Beijing i ymchwilio i feysydd lle gellid cydweithredu.

Mae’r amserlen yn cynnwys digwyddiad addysg uwch i dynnu sylw’r cyfryngau yn China at Gymru fel cyrchfan astudio, a bydd Prifysgol Abertawe yn arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu Sefydliad Safonau Ewrop China ar gampws y Brifysgol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal derbyniad er mwyn ceisio hyrwyddo Cymru fel lleoliad busnes, gan roi cyfle i gwmnïau o Gymru gyfarfod â’u cymheiriaid o China.