Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, yn galw ar Lywodraeth Prydain i ymrwymo i ddiogelu mynediad am ddim at arian parod mewn ardaloedd gwledig trwy warchod peiriannau arian twll yn y wal.

Mae hi wedi bod yn siarad yn dilyn cyfarfod yn San Steffan â Pete McNamara, prif weithredwr Note Machine, un o ddarparwyr mwyaf peiriannau arian parod Prydain.

“Ni all cymunedau gwledig fforddio colli mwy o beiriannau arian di-dâl,” meddai.

“Mae busnesau a phobl leol yn dibynnu arnynt. Gyda banciau’r stryd fawr yn cau, mae peiriannau arian wedi dod yn anghenraid i lawer o gymunedau yn Nwyfor Meirionnydd a rhaid eu diogelu’n iawn.”

Dywed y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ymchwilio i dechnoleg sydd y tu ôl i beiriannau arian parod fel ffordd o hwyluso blaendaliadau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae mynediad at wasanaethau ariannol wedi ei gyfyngu o ganlyniad i gau banciau.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r darparwyr wedi dweud wrthi nad ydi peiriannau ATM di-dâl bellach yn “economaidd hyfyw”, gyda mwy o beiriannau yn debygol o gael eu trosi i godi ffioedd dros y misoedd nesaf.

‘Beirniadaeth ddamniol o’r llywodraeth Dorïaidd’

“Mae’n annheg disgwyl i bobl orfod talu i gael eu harian eu hunain allan, ynghyd a theithio ymhellach i fedru tynnu arian allan am ddim,” meddai.

“Mae’n feirniadaeth ddamniol o’r llywodraeth Dorïaidd bod darparwyr peiriannau arian wedi’u rhoi yn y fath sefyllfa fel eu bod bellach yn gorfod dechrau trosi cyfran o’u peiriannau i rai sy’n codi ffȋ defnydd.

“Mae angen i lywodraeth y DU ddeffro i’r ffaith bod dyletswydd arnyn nhw i sicrhau bod gan bobl fynediad at arian parod sydd y tu hwnt i ymgyrch hybu elw’r banciau i gymdeithas ddi-arian.

“Mae bancio electronig a thaliadau cerdyn yn unig yn siwtio’r banciau i’r dim wrth iddynt geisio lleihau costau, ond, yn y broses, mae pobl mewn ardaloedd gwledig fel Dwyfor Meirionnydd yn cael eu hamddifadu o reidrwydd economaidd.

“Mae’r Gyllideb yr wythnos hon yn gyfle i lywodraeth y DU ymrwymo i ddiogelu peiriannau arian parod, lleihau’r baich ar ddarparwyr a lleihau ymdrechion y banciau mawr i leihau ffioedd a delir i ddarparwyr ATM.”