Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am gynllunydd ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2021.

Rhoddwyr Cadair Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yw teulu Dafydd Orwig, un a fu’n amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus Gwynedd yn ystod ei oes, a hynny er cof amdano.

Bydd Eisteddfod Llyn ac Eifionydd hefyd yn nodi chwarter canrif ers ei farwolaeth.

Mae’r teulu’n awyddus i ddathlu ei fywyd a’i gyfraniad drwy gomisiynu Cadair arbennig a fydd yn adlewyrchu’i fywyd a’i gredoau.

Addysgwr ac arloeswr

Cafodd Dafydd Orwig ei eni yn 1928.

Yn wreiddiol o Ddeiniolen, magwyd e yn Carnew, Iwerddon tan ei fod yn 11 oed, pan ddychwelodd y teulu i Ddeiniolen.

Yn dilyn cyfnod fel athro Daearyddiaeth ym Mlaenau Ffestiniog a Bethesda, bu’n ddarlithydd yn Y Coleg Normal ym Mangor, gan ddysgu cannoedd o fyfyrwyr.

Yn addysgwr ac arloeswr, bu’n Gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd ac yn Gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, ynghyd â nifer o sefydliadau cenedlaethol a mudiadau eraill.

Cadair ddefnyddiol ond trawiadol

Mae’r teulu yn awyddus  i’r Gadair gael ei defnyddio fel rhan o ddodrefn arferol cartref yr enillydd, ond bod rhaid hefyd iddi edrych yn drawiadol ac urddasol ar lwyfan y Pafiliwn.

Bydd y cynllunydd llwyddiannus yn cael cynnig pren o un o goed derw gwreiddiol y Lôn Goed, a ddisgynnodd mewn storm tua phum mlynedd yn ôl.

Mae’r goeden yn 200 oed a chafodd y Lôn Goed ei hanfarwoli yng ngherdd eiconig R Williams Parry, Eifionydd.

Mae modd lawrlwytho’r briff a’r manylion llawn ar gyfer creu’r Gadair drwy fynd i wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.

 

Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw Mehefin 1 eleni.