Mae disgwyl i Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, gyhoeddi yn ei Gyllideb yfory (dydd Mercher, Mawrth 11) y bydd S4C yn cael ad-daliad Treth Ar Werth blynyddol ar ei chostau.

Mae disgwyl y gallai’r sianel fod ar ei hennill bob blwyddyn o ryw £15m.

Gallai’r cyhoeddiad ddod fel rhan o addewid i wella cenhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, gan osod S4C ar yr un lefel â rhai o’r darlledwyr mawr fel y BBC ac ITN.

Bydd y drefn newydd yn dod i rym o Ebrill y flwyddyn nesaf.

‘Rhan annatod o wead diwylliant Cymru’

“Mae S4C wedi dod yn rhan annatod o wead diwylliant Cymru ac rydyn ni’n benderfynol o gefnogi’r sianel er mwyn iddi allu parhau i ddarlledu amrywiaeth o raglenni i gannoedd o filoedd o siaradwyr Cymraeg sy’n gwylio bob wythnos,” meddai Rishi Sunak.

“Mae addewid Cyllideb Llywodraeth y DU yn rhan o’i chynllun ehangach i gefnogi cymunedau ledled y wlad, y mae llawer ohonynt yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.

“Mae’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan hollbwysig yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Bydd siaradwyr Cymraeg yn parhau i allu mwynhau darllediadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r mesur hwn yn cyflawni addewid yn y maniffesto i roi cefnogaeth bellach i’r darlledwr, a sefydlwyd yn 1982 ac sydd â chynulleidfa o tua 665,000 o wylwyr teledu ledled y DU bob wythnos.”

Yr ymateb yng Nghymru

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn croesawu’r cyhoeddiad sy’n “galluogi S4C i barhau â’i chenhadaeth i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl ar draws ystod o lwyfannau cyfoes”.

Mae hefyd yn dweud bod y cyhoeddiad yn “arwydd clir” o gefnogaeth Llywodraeth Prydain i ddyfodol y sianel.

“Gydag S4C yn brif gomisiynydd rhaglenni a chynnwys Cymraeg, mae hyn yn argoeli i fod yn hwb mawr i’r sector ac yn helpu i sicrhau ei ddyfodol,” meddai wedyn.

“Pe bai S4C yn defnyddio ei chyllideb bresennol ei hun i dalu ei TAW, byddai dyfodol y sianel wedi bod yn ansicr, gyda’r posibilrwydd o dorri gwasanaethau.

“Gan mai S4C yn unig sy’n comisiynu rhaglenni Cymraeg, mae hyn yn arwydd clir bod Llywodraeth y DU yn cefnogi’r iaith a diwylliant Cymru yn y tymor hir.

“Mae S4C wedi bod yn dibynnu ar gyllid gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ers mis Ebrill 2019 i dalu am ei thaliadau TAW, wedi iddi fethu adennill ei chostau TAW yn dilyn newid yn ei model busnes.

“Bydd y newid yn cael ei wneud ym Mil Cyllid yr Hydref, sy’n golygu y caiff S4C ei ad-dalu’r TAW o Ebrill 2021. Bydd yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn parhau i ymdrin â thaliadau TAW S4C tan hynny.”

Ymateb S4C

Yn ôl llefarydd, mae S4C yn “croesawu’r datblygiad hwn”.

“Mae’r datblygiad yma yn osgoi toriad o 20% yn y cyllid sydd ar gael i S4C,” meddai.

“Rydym yn ddiolchgar i’r holl aelodau seneddol, swyddogion a gweinidogion yn yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a Swyddfa Cymru sydd wedi dadlau’n hachos gyda’r Trysorlys.”