Mae cynlluniau i ailadeiladu ac ailbeintio mur eiconig ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi eu cytuno, gydag arbenigwr yn y maes cadwraeth adeiladu, wedi ei benodi i reoli’r cynllun i ddiogelu’r wal.

Yn ddiweddar cafodd cyfarfod ei gynnal yn neuadd Llanrhystud, lle bu cynlluniau’n cael eu trafod i adnewyddu a gwarchod wal eiconig ‘Cofiwch Dryweryn’ sydd ar gyrion y pentref.

Daw’r newydd ar ôl ymgyrch ryngwladol y llynedd ar ôl i’r mur gael ei ddifetha ar ddau achlysur gwahanol.

Mae’r wal yn sefyll ger ffordd yr A487 rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth, ac mae’r geiriau arni yn cyfeirio at foddi Capel Celyn, Cwm Tryweryn.

Cynhaliwyd y cyfarfod gan Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, ar ôl iddi sefydlu cysylltiad rhwng cyn-berchnogion y wal y llynedd a Dilys Davies a oedd yn awyddus i brynu’r wal er mwyn ei gwarchod i’r dyfodol.

Cafodd y gwerthiant i Dilys Davies ei gwblhau ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae Nathan Goss o Aberarth, sydd â phrofiad o weithio yn y maes cadwraeth adeiladu, wedi ei benodi i reoli’r cynllun cadwraeth i ddiogelu’r wal.

“Diddordeb mawr”

Dywedodd Elin Jones: “Yn naturiol, mae gan nifer o bobl trwy Gymru a thu hwnt ddiddordeb mawr yn y gofeb i Dryweryn.”

Eglurodd yr Aelod Cynulliad fod cynlluniau i ddiogelu a dehongli’r wal wedi eu cytuno yn y cyfarfod gan fod y wal wedi dirywio dros y blynyddoedd ac wedi lleihau yn sylweddol o’r maint gwreiddiol.

“Bydd y wal yn cael ei chodi yn agosach i’w maint gwreiddiol pan beintiwyd yn wreiddiol yn y 1960au, gan ddefnyddio’r cerrig sydd wedi cwympo ac sydd ar lawr.

“Yn dilyn y gwaith cadwraeth, mi fydd artist lleol yn gweithio gyda phlant Ysgol Myfenydd i beintio’r wal eto i’r cynllun eiconig.

“Yn y pen draw, y bwriad yw y bydd bwrdd dehongli yn cael ei godi i adrodd stori Tryweryn a’r wal.”