Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried codi tollau ar rai o ffyrdd Cymru fel rhan o’u hymdrech i leihau allyriadau carbon y rhwydwaith trafnidiaeth, gwella ansawdd yr aer a lleihau tagfeydd.

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates wedi comisiynu adolygiad annibynnol i edrych ar fanteision a heriau gwahanol ddulliau o reoli galw, gan gynnwys “codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd.”

Mae’r term “codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd” yn cynnwys yr holl ddulliau o godi tâl, gan gynnwys codi tâl ar sail pellter, codi tâl i atal tagfeydd, codi tâl i barcio mewn gweithleoedd ac ardollau ar barcio mewn safleoedd manwerthu.

“Buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus”

Mae Derek Turner, sydd a “phrofiad helaeth yn y maes”, wedi ei benodi i gynnal yr adolygiad.

Dywed Ken Stakes ei fod hefyd yn bwriadu buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn ceisio annog pobl i ddefnyddio eu ceir yn llai aml.

“Rwy’n falch iawn fod Derek Turner wedi cytuno i gwblhau’r astudiaeth hon,” meddai Ken Stakes.

“Mae ganddo brofiad helaeth o gynnig cyngor polisi strategol ar drafnidiaeth ac mae ganddo gryn arbenigedd ym maes codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd.”

Mae disgwyl i gasgliadau’r adolygiad gael eu cyhoeddi yn yr Hydref a bydd yn cyfrannu tuag at bolisi cenedlaethol a rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar y mater.

Gallai Llywodraeth Cymru alw ar yr adolygwr i ddarparu tystiolaeth er mwyn helpu wrth lunio polisi i’r dyfodol.