Mae angen i Lywodraeth Prydain gyflwyno system fewnfudo sydd yn gweithio i Gymru – dyna alwad Llywodraeth Cymru  sydd wedi uno  gyda’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, sefydliadau busnes, cynghorau lleol, prifysgolion, y sector wirfoddol ac Undebau Gweithwyr.

Mae sawl sefydliad o wahanol sectorau ar hyd a lled Cymru wedi arwyddo’r papur sefyllfa, ac mae’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd wedi anfon llythyr i’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn galw am newidiadau i’w cynlluniau.

Mae papur sefyllfa mewnfudo Cymru yn galw am:

  • Diddymu neu leihau’r trothwy cyflogau o £25,600
  • Unrhyw system fewnfudo i fod ar gost isel a lleihau costau gweinyddol
  • Llwybr ar gyfer mewnfudo nad yw wedi ei noddi, yn gyson sy’n gyson â system yn seiliedig ar bwyntiau
  • Dylai’r polisi newydd gydnabod yr her ddemograffig sy’n wynebu Cymru
  • Digon o amser i gyflwyno system newydd
  • Dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod mewnfudwyr yn ymwybodol o’u hawliau a bod yr hawliau hynny’n cael eu cynnal.

“Angen system sydd yn gweithio i Gymru”

“Mae polisi mewnfudo Prydain o bwys mawr i Gymru,” meddai Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd.

“Bydd yn cael effaith sylweddol ar ein dyfodol, ein heconomi, ein cymunedau a’n diwylliant. Mae angen i unrhyw newidiadau sydd yn cael eu gwneud gymryd anghenion Cymru mewn golwg.”

“Gyda’n gilydd, rydym yn anfon neges glir iawn- mae angen system fewnfudo sydd yn gweithio i Gymru, sy’n gweithio i’n busnesau, ein hysgolion a’n prifysgolion, ein cartrefi gofal a’n hysbytai, fel ein bod yn parhau gyda’r sgiliau a’r bobl sydd eu hangen arnom ni.”

“Nid yw’r hyn mae Llywodraeth Prydain yn ei gynnig ar hyn o bryd yn gweithio i Gymru.”

“Mae’r ffaith fod y papur hwn wedi ei gytuno  gan ystod mor eang o sefydliadau, ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru yn adrodd cyfrolau am yr ymdeimlad cryf yr ydym yn ei gyfleu yma. Rydym yn gobeithio y bydd yn neges gref yma o Gymru am anghenion mewnfudo yn y dyfodol yn cael ei glywed gan Lywodraeth Prydain.”