Mae hufenfa newydd sy’n agor yn Hendygwyn yn Sir Gâr yn gobeithio adfywio’r diwydiant prosesu llaeth yng Nghymru.

Fe fydd hufenfa Proper Welsh yn agor yn swyddogol heddiw, gydag 14 o swyddi ychwanegol i ddechrau a 40 yn y pen draw.

Honiad y cwmni yw mai dyma’r hufenfa newydd i’w hagor yng Nghymru ers 75 o flynyddoedd.

Mae wedi ei sefydlu yn hen adeiladau hufenfa Hendygwyn a’r gobaith yw prosesu 10 miliwn litr o laeth bob blwyddyn.

Fe fydd yn gwerthu o’r dechrau i 50 o siopau Tesco ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda chwmni llaeth lleol Calon Wen.

Cwmni lleol

Mae’r buddsoddiad o £1.5 miliwn yn cael ei wneud gan y cwmni lleol sydd hefyd wedi agor cangen yn Hufenfa De Arfon ym Mhen Llŷn.

Yn ôl y cwmni fe fydd hyn yn gam at adfywio’r diwydiant prosesu sydd wedi gweld un hufenfa ar ôl y llall yn cau yng Nghymru, gan gynnwys hufenfa Hendygwyn.

“Mae Proper Welsh o blaid cynyddu cynhyrchu llaeth yng Nghymru, gwlad sy’n gynhyrchydd llaeth naturiol,” meddai un o gyfarwyddwyr y cwmni newydd, Richard Arnold. “Y cyfan sydd ei angen  yw’r adnoddau i brosesu’r llaeht yn hytrach na’i anfon ar daith o’r wlad ac yn ôl.”

Hen ffasiwn

Mae’r cwmni’n amcangyfri’ y bydd prosesu llaeth o ffermydd lleol yn Hendygwyn yn arbed cymaint â 360 milltir ar y daith o’r clos i’r botel, gan gyrraedd y siopau o fewn 24 awr i odro.

Fe fydd y llaeth yn troi’r cloc yn ôl mewn ffordd arall hefyd – fydd e ddim yn cael ei homogeneiddio, fel bod yr hufen yn codi i’r wyneb yn y dull hen ffasiwn.