Mae dau achos newydd o’r Coronafeirws wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ddydd Llun (Mawrth 9) gan ddod a chyfanswm yr achosion i chwech.

Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, bod y ddau berson wedi cael prawf positif ar ôl dychwelyd o’r Eidal yn ddiweddar.

Mae un o’r cleifion yn dod o Gasnewydd ac roedd wedi teithio i ogledd yr Eidal yn ddiweddar, tra bod y person arall wedi dychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot o dde’r Eidal.

Dywedodd Dr Frank Atherton bod y ddau glaf yn cael triniaeth mewn “canolfannau clinigol priodol” a bod mesurau mewn lle i sicrhau nad yw’r firws yn lledu.

Rhybudd i osgoi teithio i’r Eidal

Yn y Deyrnas Unedig mae cyfanswm yr achosion bellach wedi cyrraedd 280.

Mae nifer y marwolaethau wedi cynyddu i dri. Fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr nos Sul (Mawrth 8) bod dyn yn ei 60au, oedd a phroblemau iechyd, wedi marw yn Ysbyty Cyffredinol Gogledd Manceinion ar ôl cael prawf positif am y firws Covid-19.

Mae nifer y marwolaethau yn yr Eidal bellach wedi cynyddu i 366 gyda chyfyngiadau ar amgueddfeydd, sinemâu, canolfannau siopau a bwytai hyd at ddechrau mis Ebrill.

Mae pobl yng ngwledydd Prydain wedi cael rhybudd i osgoi teithio i rannau helaeth o ogledd yr Eidal, gan gynnwys Milan a Fenis, oni bai bod hynny’n hanfodol.