Daethpwyd o hyd i gar ben i waered ar ben gwrych ar Ynys Môn, ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi dod o hyd i berchennog y car a’i arestio.

Roedd y Vauxhall Corsa ar ben gwrych saith troedfedd o uchder ar Lôn y Traeth, ger Pentraeth, yn ôl papur newydd y Daily Post.

Gwelwyd y car bore ddoe ac roedd pryder ymysg y trigolion lleol fod y gyrrwr wedi ei anafu.

“Mae goryrru ar y ffordd wedi bod yn bryder i ni am amser hir,” meddai’r cynghorydd Hefin Thomas.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr heddlu yn sylweddoli nawr fod angen gwneud rhywbeth am y ffordd beryglus yma.”