Mae Gareth Thomas wedi ymddiheuro am ei ymateb ar ôl i Joe Marler, prop Lloegr, gyffwrdd genitalia Alun Wyn Jones, capten Cymru, yn Twickenham ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 7).

Roedd cyn-gapten tîm rygbi Cymru, sy’n hoyw ac yn byw â chyflwr HIV, yn y stiwdio fel dadansoddwr ITV ar gyfer yr ornest ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd Alun Wyn Jones i’w weld yn grac yn dilyn y digwyddiad.

“Fyddai hynny fyth wedi digwydd yn fy nyddiau i,” meddai Gareth Thomas.

“Pe bai e yn digwydd, fyddwn i byth wedi ymddeol!”

Mae ei sylwadau wedi ennyn ymateb cymysg ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn gweld yr ochr ddoniol ond eraill yn dweud bod y sylwadau’n “warthus”.

‘Byddwch yn garedig’

“I’r lleiafrif bach IAWN o bobol oedd wedi’u sarhau gan fy sylw ddoe, dw i’n ymddiheuro,” meddai ar Twitter.

“Fe wnes i geisio darganfod hiwmor mewn sefyllfa – dydy hynny ddim yn meddwl fy mod i’n ei gymeradwyo, mae’n golygu nad o’n i am iddo fod yn fater o bwys.

“Felly peidiwch â newid y naratif er mwyn cyfiawnhau sut rydych chi’n teimlo.

“Byddwch yn garedig.”