Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru roi’r hawl i garcharorion sydd wedi’u dedfrydu i bedair blynedd neu lai dan glo bleidleisio mewn etholiadau lleol.

Byddai’r newid i’r Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gweld tua 1,900 o oedolion ac 20 o bobol ifanc sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn cael pleidleisio.

Byddai’n rhaid i garcharorion brofi fod ganddyn nhw gysylltiadau â chyfeiriad yng Nghymru er mwyn cael pleidleisio, ond fydden nhw ddim yn cael defnyddio cyfeiriad carchar.

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi mynediad i garcharorion i ymgeiswyr, deunydd etholiadol a’r cyfryngau er mwyn dewis pwy fydden nhw’n pleidleisio drostyn nhw.

A bydd y llywodraeth yn cydweithio â Llywodraeth Prydain er mwyn hwyluso’r broses i bobol o Gymru sydd mewn carchar yn un o wledydd eraill Prydain.

Gallai’r Mesur ddod i rym erbyn etholiadau lleol 2022.

Ar hyn o bryd, gall carcharorion yn yr Alban sydd dan glo am hyd at 12 mis bleidleisio.

Ymestyn y bleidlais

Yn ôl Julie James, Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, mae angen dod o hyd i’r cytbwysedd cywir ar y mater.

“Fe wnaeth ymatebwyr i’r ymgynghoriadau cyhoeddus nodi hawliau dynol a dinasyddiaeth carcharorion, ochr yn ochr â manteision adfer o roi’r hawl i bleidleisio fel rhesymau pam y dylid ymestyn y bleidlais,” meddai.

“Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn ymestyn y bleidlais i’r holl garcharorion a phobol ifanc yn y ddalfa.

“Rwy’n credu bod ein polisi yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng anfon negeseuon cryf a phositif i garcharorion eu bod nhw’n parhau i gael rhan yn y gymdeithas ac adnabod natur, difrifoldeb ac amgylchiadau’r troseddu.”