Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Sir Penfro i werthu fferm hanesyddol Trecadwgan ger Solfach sydd bellach yn eiddo i gwpwl o Gaerloyw.

Bu ymdrech gan ardalwyr i brynu’r fferm er mwyn creu menter gymunedol fyddai’n cynhyrchu bwyd i bobl leol a dysgu’r grefft o ffermio i bobl leol.

Cafodd cynllun busnes gael ei greu, a gwrthwynebwyd penderfyniad y Cyngor i werthu’r fferm, gyda deiseb yn cael mil o lofnodion.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, cytunodd y gymuned â’r Cyngor Sir i brynu’r fferm sawl gwaith, ddim ond i’r cytundeb ddymchwel bob tro.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r Cyngor o “roi buddion ariannol tymor byr o flaen dymuniad y gymuned.”

Cymunedau iach yw sylfaen ein gwlad. Dyma fenter gymunedol fyddai’n llythrennol wedi rhoi bwyd iach i’w phobl, ac adfer iechyd cymdeithasol hefyd,” meddai Robat Idris, Cadeirydd Grŵp Cymunedau’r Gymdeithas.

“Mae’n anghredadwy fod y weledigaeth gymunedol iach a chadarn hon yn deilchion – a hynny am nad oedd yr ewyllys gwleidyddol yna i’w chefnogi.”