Mae angen rhagor o gefnogaeth ar bobol ifanc sy’n achosi niwed i’w hunain yn fwriadol.

Dyna ddywed mudiad sydd newydd ddechrau cynnal gweithdai yn un o drefi’r cymoedd.

Yn ôl Amber Project, sy’n cynnal seisiynau cerddoriaeth ym Mhontypridd, mae nifer o ragfarnau yn dal i fodlon yny maes.

Mae’r cynllun yn cynnig help ymarferol a chwnsela i bobol ifanc sy’n achosi niwed i’w hunain boed hynny yn anhwylderau bwyta, ymddygiad risky neu hunan niweidio drwy dorri eu hunain.

“Rydyn ni’n gweithio gyda ystod eang o bobol ifanc sydd yn dod o bob math o gefndiroedd gwahanol sydd wedi cael pob math o brofiadau.” meddai Caryl Stock, cydlynydd Amber Project.

“Mae yna rai sydd wedi cael eu camdrin yn ystod eu plentyndod, eraill sydd wedi cael plentyndod bron iawn delfrydol, beth fydden ni yn ystyried yn ‘normal’. Mae’n wahanol i bawb.”

Yn ôl Caryl Stock mae’r cymorth sydd ar gael i bobol ifanc yn anghyson. Fe fydd yr  arian at gynllun Amber yn parhau tan y Pasg.

“Mewn maes sydd yn effeithio ar bobol ifanc fel achosi niwed i’ch hunain ac sydd yn cael ei gydnabod, mae’n siom bod Llywodraeth Cymru ddim yn rhoi arian i brosiectau ar lawr gwlad fel ein un ni oherwydd dyma lle mae’r gwaith yn digwydd.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 27 Hydref