Canolfan Dylan Thomas
Mae pryder am ddyfodol Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe, yn sgil y cyhoeddiad y bydd Prifysgol Cymru yn uno gyda’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Abertawe.

Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl flynyddol i’r bardd o’r dre, Dylan Thomas, mae ymgyrchwyr yn pryderu am ddyfodol yr ŵyl, yn ogystal â dyfodol Gwobr Dylan Thomas, dathliadau canmlwyddiant y bardd a swyddi.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi cael addewid gan Brifysgol Cymru y byddai’r Ganolfan yn dal yn ganolbwynt i weithgareddau Dylan Thomas, a’r arddangosfa barhaol yno, er i’r siop lyfrau ail-law orfod cau.

Roedd trafodaethau yn cael eu cynnal ynglŷn â throsglwyddo’r Ganolfan o ofal  Gyngor Dinas Abertawe i’r Brifysgol.

“Roedden ni’n teimlo’n eitha sicr,” meddai un o’r ymgyrchwyr, Wyn Thomas. “Mae hyn yn ein gadael ni nawr mewn clamp o broblem. Beth sy’n mynd i ddigwydd i Ganolfan Dylan Thomas? A fydd hi’n mynd i’r Brifysgol newydd yma? Ydyn nhw’n mynd i’n sicrhau ni, fel y gwnaeth Mark Clement (cyn-Is-Ganghellor Prifysgol Cymru), o barhad pethau?”

Maen nhw’n fwy pryderus o ystyried bod canmlwyddiant Dylan Thomas ond dair blynedd i ffwrdd.

“Mae gweithgareddau wedi cychwyn yn barod – mae’n rhaid iddyn nhw,” meddai. “Mae hwn yn siawns pwysig… i boblogi Dylan ac i apelio mwy at gynulleidfa fwy eang.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 27 Hydref