Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i roi’r hawl i rai carcharorion bleidleisio mewn etholiadau.

Byddai oedolion a phobl ifanc o Gymru sydd wedi eu dedfrydu i lai na phedair blynedd o garchar, yn cael pleidleisio mewn etholiadau cynghorau sir.

Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cyhoeddi gwelliannau i’r mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau, sy’n gwneud ei ffordd drwy’r Senedd.

Byddai’r gwelliannau yn golygu bod oddeutu 1,900 o garcharorion a 20 o bobl ifanc sydd o dan glo, yn cael pleidleisio yn yr etholiad llywodraeth leol nesaf ym Mai 2022.

“Cafodd yr egwyddor o roi hawl i bleidleisio i o leiaf rhai carcharorion ei gefnogi mewn ymgynghoriad gymerodd Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru,” meddai Julie James.

“Bu i bwyllgor o’r Senedd awgrymu bod carcharorion a phobl ifanc sydd o dan glo sydd wedi

eu dedfrydu i lai na phedair blynedd o garchar, yn cael yr hawl i bleidleisio.”

Byddai’r carcharorion yn pleidleisio drwy’r post neu drwy brocsi yn unig – ni fydd yna ganolfannau pleidleisio mewn carchardai.

Os yw carcharorion yn penderfynu defnyddio eu hawl i bleidleisio, byddan nhw angen mynediad i lenyddiaeth etholiadol yn o gystal â’r cyfryngau Cymreig er mwyn adnabod y materion a gallu gwneud penderfyniadau doeth.