Mae cryn oedi i deithwyr ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd, ar ôl i lori fynd ar dân.

Fe ddigwyddodd ger cyffordd 26 ger twnnel Brynglas.

Mae’r heddlu’n rhybuddio pobol i gadw draw am y tro ar ôl iddyn nhw gau’r draffordd i’r ddau gyferiad rhwng cyffordd 26 (Malpas) a chyffordd 28 (Parc Tredegar).

Chafodd gyrrwr y lori mo’i anafu.

Daw’r Digwyddiad ar ôl gwrthdrawiad rhwng pedwar car ar yr A48 yng Nghasnewydd.