Mae’n ymddangos bod cynnydd sylweddol yn y galw am gig oen o Gymru yn yr Almaen a’r Dwyrain Canol erbyn hyn.

Mae ystadegau yn dangos bod y galw am gig oen o ynysoedd Prydain wedi cynyddu yn Ewrop a thu hwnt.

Yn 2019 roedd allforion cig oen Prydeinig i fyny o 7.1% yn ôl gwerth,a 12.6% yn ôl cyfaint o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, bu’r twf mwyaf mewn allforion mewn dwy farchnad y mae Hybu Cig Cymru wedi’u targedu ar gyfer hyrwyddo Oen Cymru – sef yr Almaen a’r Dwyrain Canol.

Cynnydd o 319%

Mae cynnydd o 319% yn allforion cig oen o’r Deyrnas Unedig i’r Dwyrain Canol, a chynnydd o 27% yn yr allforion i’r Almaen.

Gan fod Cymru yn gartref i bron i draean o ddefaid Prydain, amcangyfrifir bod allforion cig oen i’r Almaen yn werth £20 miliwn i ffermwyr a phroseswyr yng Nghymru, tra bod gwerth masnach gyda’r Dwyrain Canol wedi codi i oddeutu £2.5 miliwn.

“Bydd rhai wythnosau eto cyn i ni weld yr ystadegau masnach fanwl ar gyfer Cymru yn unig,” meddai Gwyn Howells, prif weithredwr Hybu Cig Cymru.

“Fodd bynnag, gallwn ddweud gyda sicrwydd bod 2019 yn flwyddyn dda i allforion cig oen, yn bennaf yn farchnad hir-sefydledig yn yr Almaen, a chyrchfan masnachu newydd yn y Dwyrain Canol.”

“Newyddion gwych i’r sector”

“Mae hyn yn newyddion gwych i’r sector,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

“Mae’r Almaen yn parhau i fod yn farchnad allweddol ar gyfer cig oen o Gymru ac mae’r Dwyrain Canol yn farchnad sy’n tyfu ar gyfer y cynnyrch gyda Chig Oen Cymru bellach ar gael mewn dwy archfarchnad bwysig yn Qatar.”