Bydd Dafydd Roberts, prif weithredwr cwmni Sain, yn camu o’r neilltu ar ddiwedd y mis, a hynny ar ôl 16 o flynyddoedd wrth y llyw.

Fe wnaeth y cwmni ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed y llynedd.

“Bydd yn chwith gennym ffarwelio ȃ Dafydd gan iddo wneud cyfraniad mawr i’r diwydiant recordio Cymraeg, ac i gwmni Sain yn benodol,” meddai Dafydd Iwan, cadeirydd cwmni Sain wrth gyhoeddi’r newyddion.

“Mae ein dyled ni, a dyled y diwydiant recordio yng Nghymru, i Dafydd Roberts, yn fawr iawn.”

‘Braint aruthrol’

“Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol cael arwain y cwmni ers 2004, a chael bod yn rhan o nifer o ddatblygiadau cyffrous, yn enwedig y dathliadau 50 mlwyddiant y llynedd,” meddai Dafydd Roberts.

“Dwi wedi mwynhau gweithio gyda staff ymroddgar Sain, ac rwy’n hynod falch o’r holl gynnyrch a phrosiectau a gyflawnwyd gennym, ac edrychaf ymlaen at gydweithio ar brosiectau eto i’r dyfodol.”

Y dyfodol

Wrth edrych at y dyfodol, bydd cwmni a labeli Sain yn parhau i ddatblygu prosiectau a rhyddhau cynnyrch newydd dan ofalaeth Aled Williams, Rhian Eleri, Gwenan Gibbard, Nerys Williams a Verona Hughes, yn ogystal â rhedeg siop Na-Nog yng Nghaernarfon dan ofalaeth Bethan Wynne Jones.

Ac o fis Ebrill ymlaen bydd adnoddau’r tair stiwdio yng Nghanolfan Sain yng ngofal Osian Williams ac Ifan Jones sy’n beirianwyr a chynhyrchwyr drwm yn ogystal â’r cynhyrchydd/peiriannydd Aled Hughes o’r band Cowbois Rhos Botwnnog.

“Mae’n ddatblygiad cyffrous i weld rhai o gerddorion a pheirianwyr ifanc mwyaf disglair Cymru yn gofalu am ddatblygu adnoddau’r stiwdio fel hyn,” meddai Dafydd Iwan a Hefin Elis.

“Wrth ddiolch i Dafydd Roberts am ei gyfraniad gwych dros 16 mlynedd, rydym yn falch o groesawu Osian, Ifan ac Aled yma atom.”