Dyw Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru, “ddim wedi clywed” am unrhyw gynlluniau i ohirio rali annibyniaeth Wrecsam ar Ebrill 18, yn sgil coronavirus.

Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Prydain ddatgan y gallen nhw wahardd torfeydd mawr o bobol rhag ymgynnull yn sgil pryderon am ledu’r firws.

Y rali annibyniaeth y Wrecsam yw’r gyntaf o dair sydd eisoes wedi eu trefnu ar gyfer 2020, gyda’r ail yn Nhredegar ar Fehefin 6 a’r drydedd yn Abertawe ar Fedi 5.

“Rydan ni’n mynd ymlaen gan gymryd bod y rali’n digwydd, mae popeth yn symud yn ei flaen,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.

“Mae gennym ni gyfres o orymdeithiau eleni, ac rydym yn bwriadu bwrw ymlaen gyda nhw i gyd.”