Mae dyn wedi cael ei arestio yn y Rhyl yn dilyn digwyddiad honedig yn ymwneud ag arf.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi arestio dyn ar ôl i heddlu arfog orfod mynd i ardal Stryd yr Abaty yn y Rhyl yn dilyn digwyddiad fore heddiw (Mawrth 3).

Roedd yr heddlu wedi heidio yn ardaloedd Stryd Bedford a Stryd yr Abaty toc cyn canol dydd ar ôl adroddiadau lleol fod rhywun yn ymladd ar Stryd Bedford.

Yn ôl pobol leol, roedd un person wedi tynnu arf ond yn ôl yr heddlu, does dim modd cadarnhau hynny ar hyn o bryd.