Mae Heddlu’r De yn dweud bod dyn wedi marw ar ôl cwympo oddi ar bont i ganol ffordd A4067 yn Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyffordd 45 yr M4 yn ardal Ynysforgan am oddeutu 8.45 fore heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 3) yn dilyn y digwyddiad.

Bu’n rhaid cau’r ffordd am rai oriau.

Dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod.