Bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Ngwynedd drwy gydol mis Mawrth er mwyn pwysleisio sut gall y celfyddydau fod yn fuddiol i iechyd a llesiant.

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys cyrsiau ysgrifennu creadigol, crefftau a sesiynau cerddoriaeth.

Ar ben hynny, mae yna arddangosfa gelf yn Oriel Ysbyty Gwynedd drwy gydol y mis.

Caiff y dathliad ei hyrwyddo gan Wasanaeth Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, fel rhan o gyd-fenter ar draws siroedd gogledd Cymru.

“Does dim amheuaeth fod cymryd rhan yn y celfyddydau yn ofnadwy o fuddiol i’n hiechyd a’n llesiant – boed drwy fwynhau sgiliau a dychymyg eraill neu drwy gael cyfle i gymryd rhan ein hunain,” meddai’r Cynghorydd Garth Thomas, sy’n aelod Cabinet Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am Ddatblygu’r Economi a Chymuned.

“Dw i’n falch fod pobol leol am gael cyfle i dreialu pethau.

“Dw i’n annog pawb i gymryd golwg ar beth sydd ar gael a chael tro ar rywbeth newydd.”