Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi beirniadu adroddiadau gan BBC Cymru bod Llywodraeth Cymru yn ystyried benthyg £6.8m i faes awyr Caerdydd.

Mae hyn yn dilyn benthyciad o £21.3m gan Lywodraeth Cymru y llynedd.

Ond mae’r Aelod Cynulliad Andrew RT Davies wedi cwestiynu strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn sgil y cynlluniau.

“Rydym oll eisiau gweld maes awyr llewyrchus yn y Rhws ac mae’r tîm rheoli ym maes awyr Caerdydd wedi goruchwylio datblygiadau a gwelliannau sylweddol.

“Fodd bynnag, mae gen i ofidion difrifol ynghylch  strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n gwneud dim synnwyr ac yn debygol o gael effaith niweidiol ar ddyfodol y maes awyr.”

“Anghynaliadwy”

Yn ol llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru, Russell George AC, roedd y maes awyr wedi cyhoeddi colledion cyn treth ym mis Rhagfyr o £18.5m, oedd “deirgwaith yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.”

“Os ydych chi’n cyfrif gost o £52m i brynu’r maes awyr, y benthyciad presennol o £38.2m, a’r benthyciad o £21.2m y llynedd, fe allai’r maes awyr fod mewn dyled i’r trethdalwr o fwy na £110m ers cael ei brynu gan y llywodraeth yn 2013.

“Nid yw hyn yn gynaliadwy.”

Mae disgwyl i gadeirydd y maes awyr, Roger Lewis a’r prif weithredwr Deb Bowen Rees gael eu holi gan Aelodau Cynulliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus prynhawn ma (dydd Llun, Mawrth 2).

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Llun, Mawrth 2) dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon buddosddi yn llwyddiant tymor hir maes awyr Caerdydd.”