Athro wrth ei waith (Etan J Tai CCA 3.0)
Roedd cannoedd o gynrychiolwyr o Gymru ymhlith athrawon a fu’n lobïo aelodau seneddol yn San Steffan heddiw yn rhan o’u protest yn erbyn newidiadau i’w pensiynau ac oed ymddeol.

Roedd cynrychiolwyr saith o undebau athrawon a darlithwyr wedi mynd i Lundain heddiw, gan gynnwys sawl llond bws o Gymru.

“Mae’n rhaid i ni ddangos nad y’n ni’n mynd i eistedd nôl a derbyn y newidiadau yma,” meddai Jayne Rees o Bontypridd wrth Golwg 360.

Mae hi’n aelod o’r undeb Cymraeg UCAC, ac ymhlith 40 o athrawon a deithiodd ar fws o Rhondda Cynon Taf.

Fe fu grwpiau o’r athrawon yn cwrdd â’u haelodau seneddol lleol i geisio ennill eu cefnogaeth. Er bod yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn erbyn streiciau’r sector cyhoeddus roedd Jayne Rees yn credu bod Owen Smith, AS Pontypridd, yn cefnogi eu safbwynt.

Angen ystyried yr oblygiadau

Yn ôl Jayne Rees, sydd wedi bod yn dysgu babanod ac sydd bellach yn swyddog cynnal iaith yn Ysgol Gymraeg Aberdar, Mae angen i’r Llywodraeth ystyried effaith ymarferol ymestyn yr oed ymddeol, meddai Jayne Rees sydd wedi bod yn athrawes fabanod ag sydd bellach yn swyddog cynnal iaith yn Ysgol Gymraeg Aberdâr.

“Os y’n ni’n gweithio’n hirach, beth sy’n mynd i ddigwydd i’r rheiny sydd newydd raddio? Mae digon o bobol yn gorfod gwneud gwaith cyflenwi fel mae hi am ei bod hi’n anodd cael swyddi,” meddai.

“Ac o ran oedran, mae angen bod yn abl iawn yn gorfforol er mwyn delio â dosbarth llawn o fabanod,” meddai.

Mae’r undebau’n dweud y byddan nhw nawr yn ystyried ymateb y Llywodraeth cyn penderfynu a fydd rhagor o weithredu diwydiannol.

Mae nifer o’r undebau – gan gynnwys UCAC – eisoes wedi cynnal streiciau undydd. Maen nhw’n honni nad yw Llywodraeth Prydain yn trafod yn deg ac y bydd y drefn newydd yn golygu gweithio’n hwy, talu mwy a chael llai.