Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth San Steffan yn galw am sicrhau bod gemau rygbi  Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael eu cadw ar deledu’n rhad ac am ddim.

Cyhoeddodd arweinydd y blaid, Adam Price, eu bod wedi cysylltu â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Sarah Healey, i gyfleu eu hanniddigrwydd am y posibilrwydd y gallai’r BBC ac ITV golli eu cytundebau i ddarlledu gemau’r Chwe Gwlad ar ôl eleni.

Fe fyddai hyn yn golygu bod yn rhaid i gefnogwyr dalu i’w gwylio ar sianeli eraill.

“Mae’n eironi chwerw wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ein bod ni’n darganfod fod posibilrwydd y byddwn ni’n fuan iawn yn cael ein prisio allan o’n diwylliant ein hunain,” meddai Adam Price ar ei gyfrif Twitter.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi cyhoeddi deiseb yn gofyn i bobl gefnogi “nad yw rygbi Cymru ar werth.” Mae’r ddeiseb wedi derbyn dros 2,000 o enwau hyd yn hyn.

“Sefyllfa drist”

Mae ymateb chwyrn wedi bod i’r adroddiadau ymhlith cefnogwyr rygbi.

“Yn anffodus ma’r byd chwaraeon yn newid gyda chwaraewyr, clybiau a gwledydd yn edrych am y ddêl orau yn ariannol,” meddai Emlyn Jones, cefnogwr rygbi brwd o Aberystwyth.

“Dw i’n talu tipyn o arian yn barod yn fisol am becynnau chwaraeon efo Sky a BT, a sai’n gweld llawer o wahaniaeth i’r gost i mi yn bersonol. Yn anffodus mae ‘na ganran uchel iawn o bobol sydd yn methu fforddio talu am becynnau lloeren ac yn ddibynnol ar y sianeli sydd am ddim.”

Ychwanegodd: “Mae cost tocyn gêm wedi codi yn echrydus. Mae rhai tocynnau am gêm Lloegr v Cymru penwythnos yma yn costi £145. Arian mawr am 80 munud! Mae’r BBC, ITV ac S4C  wedi rhoi blynyddoedd o raglenni o’r safon uchaf ond yn anffodus mae cwmniau mawr fel Sky yn gallu prynu eu ffordd i mewn i’r maes. Diwedd y gân yw’r geniog a gyda chwaraewyr, clybiau ac undebau yn gwario mwy, mae’n rhaid iddyn nhw fynd am y pris uchaf.

“Sefyllfa drist a bydd nifer uchel o bobol yn colli allan ar gael gwylio gemau rhyngwladol yn y dyfodol.”