Daw cyfraith newydd i rym heddiw (Dydd Llun Mawrth 2) sydd yn gosod isafswm ar bris alcohol yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu na fydd modd i alcohol gael ei werthu na’i gyflenwi am lai na 50c yr uned.

Mae oddeutu 10 person y dydd yn marw yng Nghymru o ganlyniad i achosion sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac yn costio tua £159 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd bob blwyddyn gan fod bron i 60,000 yn mynd i’r ysbyty oherwydd cyflyrau yn ymwneud ag alcohol.

Ni fydd modd gweld llawer o wahaniaeth ym mhris y rhan fwyaf o ddiodydd alcohol. Ond mewn diodydd lefel uchel a rhad fel seidr gwyn, bydd gwahaniaeth sylweddol.

Yn yr Alban, ble mae isafswm pris alcohol wedi ei gyflwyno ers Mai 2018, mae’r arwyddion cynnar yn gadarnhaol. Maen nhw wedi gweld lleihad mewn gwerthiant alcohol pur mewn blwyddyn, a lleihad mewn gwerthiant alcohol am bris rhad iawn.

“Lleihau’r risg o niwed”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething a fu’n ymweld â thîm gofal alcohol yn Ysbyty Brenhinol Gwent ym Mhen-y-bont ar Ogwr:

“Rydym yn gwybod pan mae alcohol yn rhad ac yn hawdd i’w gael gan fod cynnydd mewn yfed niweidiol. Fydd y pris ddim yn effeithio ar yfwyr cymedrol fydd efallai yn poeni am bris peint yn mynd yn uwch. Pwrpas y ddeddfwriaeth yw lleihau’r risg o niwed i’r rhai sydd fwyaf mewn risg o gamddefnyddio alcohol.”

“Rydym yn gweld effeithiau gor-ddefnyddio alcohol ar iechyd pobl yn ddyddiol,” meddai Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd  Prifysgol Aneurin Bevan.

“Ar wahân i niweidio’r iau, mae alcohol yn effeithio’r galon, arennau a’r ymennydd. Mae’n cael effaith ar wasanaethau ysbytai, ac ar fywydau pobl yn fwy cyffredinol. Bydd yr ymyriad yma o osod isafswm yn lleihau’r niwed a wnaed gan alcohol, mae’n gam pwysig a gobeithio y bydd yn gwneud i bobl feddwl am eu perthynas ag alcohol.”