Mae Llywodraeth Prydain yn barod i “aberthu sectorau sy’n bwysig iawn i economi Cymru”, yn ôl Jonathan Edwards, aelod seneddol Plaid Cymru.

Fe fu’n ymateb ar ôl i e-byst gan un o brif ymgynghorwyr Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gael eu cyhoeddi i’r wasg.

Yn y negeseuon, mae Dr Tim Leung yn awgrymu nad yw’r sectorau amaeth a physgodfeydd yn “hanfodol bwysig” i economi Prydain.

Mae’n dweud y byddai’n bosib dilyn esiampl Singapôr, sydd heb ddiwydiant amaeth.

‘Diffyg ystyriaeth’

Wrth siarad â golwg360, dywed Jonathan Edwards fod y sylwadau’n dangos diffyg ystyriaeth o sefyllfa Cymru, lle mae’r sectorau ymhlith y pwysicaf i’r economi yma.

“Beth maen nhw wedi sylweddoli, wrth gwrs, yw er mwyn cyrraedd y freuddwyd ffals hyn o allu cael polisi masnach ryngwladol annibynnol, y sector domestig sydd yn sefyll yn y ffordd yw amaeth,” meddai.

“Dyna pham fod lot o’r storïau hyn yn dechrau dod ma’s.

“Ni’n gwybod o asesiadau Llywodraeth Prydain fod sector bwyd ac amaeth bedair gwaith yn fwy pwysig i economi Cymru na beth ydyn nhw i’r economi Brydeinig yn ei chyfanrwydd.

“Os y’ch chi’n lleihau safonau bwyd Prydain, fydd ffermwyr Cymru’n methu allforio mewn i’w marchnad fwya’ nhw, sef yr Undeb Ewropeaidd.

“Y gwir yw fod e’n fwy pwysig o lawer i economi Cymru nag yw e i economi Lloegr.

“Y sectorau maen nhw’n mynd i’w haberthu yw’r sectorau sy’n bwysig iawn i economi Cymru.”

‘Ofnau’

Yn ôl Jonathan Edwards, bydd y sectorau amaeth a physgodfeydd yn cael eu gwarchod llai wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny wrth i Brydain ymddatod o gyfreithiau Ewropeaidd.

“Digwydd bod, o fewn y fframwaith Ewropeaidd roedd y sectorau hynny’n cael eu hamddiffyn yn gryf iawn.

“Roedd y bloc Ewropeaidd yn floc oedd yn ffafriol iawn i’r cynhyrchwyr bwyd.

“Fi’n ofni bod y dyddiau hynny’n mynd i brysur ddiflannu.”