Tra bod pôl blynyddol gan y BBC yn dangos bod mwy o bobol yng Nghymru o blaid annibyniaeth, mae hefyd yn dangos bod cefnogaeth i’r syniad o ddiddymu’r Cynulliad wedi aros yn gyson ers y flwyddyn ddiwethaf.

Erbyn hyn, 11% sydd o blaid gadael y Deyrnas Unedig, i fyny o 7% y llynedd – a dyma’r ffigwr uchaf ers naw mlynedd.

Ond 14% sydd o blaid diddymu’r Cynulliad yn llwyr, i fyny o 13% y llynedd, gyda 43% yn dweud y dylai’r sefydliad ym Mae Caerdydd gael mwy o bwerau, i lawr o 46% y llynedd.

Mae lle i gredu mai rhoi’r bleidlais i bobol 16 ac 17 oed, a’u cynnwys yn y pôl o ganlyniad i hynny, sydd wedi arwain at y cynnydd bach yn y gefnogaeth i annibyniaeth, wrth iddyn nhw baratoi i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Darogan canlyniadau etholiad y Cynulliad

O edrych yn benodol ar etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, fe allai fod yn agos iawn rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

Yr awgrym ar hyn o bryd yw y bydd Llafur yn ennill 21 sedd, y Ceidwadwyr 20 a Phlaid Cymru 18, tra byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill un sedd yn unig.

O edrych yn benodol ar etholaethau, byddai Llafur yn ennill 31% o’r seddi, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr 26% a’r Democratiaid Rhyddfrydol 6%.

O safbwynt y rhanbarthau, byddai Llafur yn ennill 31% o’r seddi, y Ceidwadwyr 29%, Plaid Cymru 25% a’r Democratiaid Rhyddfrydol 5%.