Mae gorymdeithiau di-ri ar y gweill ledled Cymru dros y penwythnos i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Ond mae digwyddiadau eraill wedi dioddef yn sgil y tywydd garw.

Mae gorymdeithiau’n cael eu cynnal heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 29) yn Aberystwyth, Aberteifi, Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Pontypŵl, Aberaeron, Bangor, Pwllheli a sawl ardal arall.

Cafodd gorymdeithiau eu cynnal ddoe yn Ninbych, Porthcawl a Bae Colwyn ddoe (dydd Gwener, Chwefror 28), ond bu’n rhaid canslo’r orymdaith yng Nghaernarfon.

Ond cafodd gorymdaith Tregaron, y gyntaf i’w chynnal yno, ei chanslo ddoe oherwydd y tywydd, ac mae’r un yn Abertawe wedi’i gohirio heddiw er bod digwyddiadau ymylol yn mynd yn eu blaenau yng nghanol y ddinas.

Bydd gorymdaith yn Wrecsam yfory, ac yn Llangefni ddydd Mercher (Mawrth 4).