Mae’r ymgais ddiweddara’ i achub y bwrdd sy’n rheoli cyflogau gweision fferm wedi methu, er gwaetha’ ymdrechion gan ASau Cymreig.

Fe fydd hynny’n golygu’r peryg o gyflogau ac amodau gwaith salach i hyd at 12,000 o weithwyr yng Nghymru, meddai’r Blaid Lafur a’r undebau.

Mae’r bwriad i ddileu yn rhan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy’n mynd trwy’r Senedd yn San Steffan ond fe gafodd gwelliannau eu curo mewn dadl yno ar y Trydydd Darlleniad.

Dim ond Tŷ’r Arglwyddi sydd rhyngddo a dod yn ddeddf – fe fydd yn cael gwared ar nifer o gyrff cyhoeddus eraill ac yn rhoi’r hawl i symud S4C dan adain y BBC.

‘Cynyddu tlodi’

Fe rybuddiodd AS Llanelli, Nia Griffith, y bydd yna “ras tua’r gwaelod” o ran amodau gwaith ac fe gyhuddodd y Llywodraeth yn Llundain o fod yn benderfynol o “wasgu ar gyflogau, cynyddu tlodi a dileu unrhyw gyfle sydd gan bobol gyffredin i wrthwynebu gormes”.

Roedd y llefarydd Llafur ar Amaeth, Huw Irranca Davies, hefyd yn galw am gadw’r Bwrdd, yn enwedig gan fod y Llywodraeth yng Nghymru ac Undeb Amaethwyr Cymru o blaid ei gadw.

“Ddylai neb amau’r ffaith y bydd yna oblygiadau difrifol os bydd y Llywodraeth yn cael gwared ar y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.”