Mae perchennog busnes mêl ar Ynys Môn wedi galw ar y rheiny sydd ynghlwm â chynllun Wylfa Newydd i “wneud y peth iawn” a’i “iawndalu’n iawn”.

Cafodd y cynllun i godi’r orsaf niwclear ei rewi fis Ionawr y llynedd pan benderfynodd Hitachi fod costau wedi codi’n ormodol.

Ond mae Katie Hayward, sy’n byw ar fferm ger y safle arfaethedig yng Nghemaes, yn credu bod y saib yma’n mynd i ddod i ben o fewn yr wythnosau nesaf, ac mae’n hynod ofidus.

Mae’n honni y gallai orfod symud â dim ond 12 wythnos o rhybudd, ac mae’n galw ar Horizon is-gorff Hitachi i rhoi digon o iawndal fel bod modd iddi symud.

“Dw i eisiau iddyn nhw wneud y peth iawn, ac ein symud ni,” meddai wrth golwg360.

“Ni yw’r unig fferm o fewn beth maen nhw’n ei alw ‘y parth coch’ sydd heb dderbyn iawndal, a chael ei dymchwel a’i symud.”

Mae’n egluro bod iawndal eisoes wedi cael ei gynnig iddi ond dyw’r swm hynny ddim yn ddigon i symud ei phum buwch ac 1,752 o gychod gwenyn.

Mae’r rhain oll ar y fferm, a’r rhain yw ffynhonnell ei harian.

“Fyddwn i methu [symud hebddyn nhw],” meddai wedyn.

“Dyma fy mywyd!”

Horizon yn “fwystfilod”

Mae’n egluro bod y fferm dan berchnogaeth ei theulu “yn ysbeidiol” ers 1532, bod yr adeilad wedi’i restru, ac nad oes modd i Horizon ei ddymchwel.

Er hynny, fyddai dim modd iddi fyw yno pe bai’r cwmni yn bwrw ati i greu’r atomfa, a hynny oherwydd y “bydd yr ardal mor frwnt, llychlyd a swnllyd bod neb yn medru byw yno,” meddai.

Mae’n dweud bod y cwmni wedi ei thrin yn wael dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n fwyaf blin am y “ffordd” maen nhw’n gweithredu, nid am y ffaith ei bod yn gorfod symud.

“Maen nhw wedi noddi cymaint, ac maen nhw wedi bod ar dudalen flaen pob papur newydd yn gwenu ac yn dweud: ‘onid ydym ni’n wych?’,” meddai.

“Ond tu ôl y llen maen nhw’n fwystfilod. Mae’r pethau maen nhw wedi gorfodi fy nheulu i’w profi, wel, mae’n ddigon i beri dyn i deimlo’n sâl.”

Effaith gorfforol

Mae’n dweud bod swyddogion y cwmni wedi bod yn cerdded ar draws ei thir heb ei chaniatâd, bod swyddogion wedi bod yn anonest â hi a’u bod nhw wedi bod yn ceisio’i chythruddo yn fwriadol.

Mae’n honni bod y straen wedi ei gwthio hyd at salwch corfforol ac yn dweud ei bod hi wedi gorfod mynnu cymorth meddygol.

“Dw i wedi bod yn yr ysbyty,” meddai.

“Cefais lawdriniaeth fawr ym mis Ebrill, oherwydd ges i stomach ulcers a ffrwydrodd.

“Ar y diwrnod y des i allan o’r ysbyty, roedden nhw yn fy ystafell orau. Roedden nhw’n eistedd yn fy lolfa.”

Mae’n ategu bod ei chwmni – sydd wedi ennill gwobrau – wedi methu â pharatoi at y dyfodol gan fod cymaint o ansicrwydd.

Ymateb Horizon

Wrth gynnig ymddiheuriad, dywed Horizon eu bod nhw “wedi mynd y tu hwnt i’r broses gynllunio statudol” er mwyn ymateb i’r sefyllfa, gan fod “cytundebau gwirfoddol rhesymol yn bwysig os oes achos o galedi gwirioneddol”.

“Mae ein tîm yn Wylfa wedi cael nifer o gyfarfodydd a thrafodaethau gyda Ms Hayward ynghylch ei phryderon am yr effeithiau posibl gallai Prosiect Wylfa Newydd gael ar ei busnes,” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Mae hyn yn mynd tu hwnt i’r broses gynllunio statudol oherwydd rydym bob amser wedi teimlo bod cytundebau gwirfoddol rhesymol yn bwysig os oes achos o galedi gwirioneddol.

“Mae atal ein prosiect, a diswyddo llawer o’n gweithwyr o ganlyniad, wedi achosi cryn aflonyddwch i bawb ond rydym wedi ceisio ein gorau i leihau hynny.

“Mae’n ddrwg gennym fod y sefyllfa bresennol yn profi’n anodd i Ms Hayward.  Rydym yn awyddus i barhau i siarad a dod i ddatrysiad rhesymol.”