Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi dolen i dudalen ar eu gwefan yn rhoi diweddariadau am deithiau sydd wedi cael eu heffeithio gan y tywydd.

Maen nhw’n rhybuddio bod oedi ar rai gwasanaethau o ganlyniad i Storm Jorge yn y de.

“Rydym yn ymdrechu i sefydlu cymaint o drafnidiaeth ffordd â phosib ar gyfer unrhyw wasanaethau sydd wedi’u heffeithio,” medd neges ar y dudalen.

“Bydd materion yn ymwneud â’r tywydd yn effeithio gwasanaethau dydd Sadwrn, ac rydym yn cynghori teithwyr i wirio cyn teithio.”

Caiff teithwyr yr holl wybodaeth drwy fynd i wefan Journey Check.

Datganiad

“Yn dilyn llifogydd mewn nifer o lefydd ledled Cymru sydd wedi’u hachosi gan law trwm a chyson yn cwympo ar dir sydd eisoes wedi’i wlychu, mae ein timau rheng flaen yn gweithio rownd y rîl i ailagor llinellau sydd wedi’u heffeithio cyn gynted â phosib,” meddai Trafnidiaeth Cymru mewn datganiad.

“Mae nifer o linellau’n parhau ynghau, fodd bynnag, ac ar drothwy Storm Jorge yn dod â gwyntoedd cryfion o hyd at 75 milltir yr awr ddydd Sadwrn, mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn annog pob cwsmer i wirio’u teithiau cyn teithio ac i adael digon o amser ar gyfer eu taith.

“O brynhawn dydd Sadwrn, rydym yn disgwyl amodau stormus iawn a gwyntoedd cryfion sydd â’r potensial i ddadwreiddio coed a difrodi isadeiledd, felly bydd cyfyngiadau cyflymdra ar rai llinellau ar ein rhwydwaith rhwng 3 o’r gloch ac 8 o’r gloch ddydd Sadwrn (Mawrth 29) a allai achosi oedi.

“Gyda thrafnidiaeth ffordd gyfyng ar gael i ni, mae’n anochel y bydd rhai gwasanaethau’n destun anghyfleustra a fydd yn arwain at oedi a chanslo.

“Rydym yn cydweithio’n agos er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cwsmeriaid i symud ac wedi’u diweddaru, ond mae’r sefyllfa’n newid o hyd ac felly mae’n bosib fydd oedi i wasanaethau gyda rhai newidiadau munud olaf.

“Mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i wirio’u taith cyn teithio ar nationalrail.co.uk neu journeycheck.com/tfwrail/.

“Pe na bai modd i gwsmeriaid deithio heddiw, bydd eu tocynnau’n cael eu derbyn ac yn ddilys i deithio ddydd Sul neu ddydd Llun.

“Hoffem ddiolch i gwsmeriaid ymlaen llaw am eu hamynedd ac am ddeall.”