Aamir Siddiqi
Mae dyn lleol wedi disgrifio’r olygfa waedlyd yng nghartref y llanc 17 oed Aamir Siddiqi yn union wedi i ddau ddyn ymosod arno gyda chyllyll.

Fe ddywedodd Ian Nurse ei fod wedi mynd am dro prynhawn Sul pan glywodd sgrechfeydd yn dod o’r tŷ yn ardal y Rhath, Caerdydd.

Roedd wedi gweld mam y llanc yn sgrechian ac yna’r tad, gyda staen o waed ar ei siaced.

Fe ddywedodd Ian Nurse wrth Lys y Goron Caerdydd ei fod wedi ffonio’r gwasanaethau brys ac wedi ceisio adfer y llanc.

Gwadu cyhuddiad

Mae dau ddyn, Ben Hope, 38, a Jason Richards, 37, yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Aamir Siddiqi ym mis Ebrill y llynedd.

Honiad yr erlyniad yw eu bod nhw wedi cael eu talu i ladd dyn arall mewn stryd gyfagos ond fod y ddau wedi cymryd cymaint o gyffuriau fel eu bod wedi gwneud camgymeriad.

Heddiw, fe fu cyfreithiwr y ddau ddiffynnydd yn codi amheuon am ddulliau’r heddlu o warchod tystiolaeth yn y tŷ ac am dystiolaeth dyn arall a ddywedodd ei fod wedi gweld cerbyd yn gyrru ar wib yn yr ardal.