Fe fydd dyn 39 oed yn treulio o leiaf 31 mlynedd dan glo am ladd cyn-ddarlithydd gyda bwa croes tu allan i’w gartref yn Ynys Môn.

Mae Terence Whall wedi ei garcharu yn Llys y Goron yr Wyddgrug am lofruddio Gerald Corrigan, 74, a gafodd ei saethu gyda’r bwa croes yn oriau mân Ebrill 19 y llynedd.

Cafwyd Terence Whall yn euog o lofruddio Gerald Corrigan ddydd Llun a dywedodd y barnwr Mrs Ustus Jefford wrth y rheithgor y byddai’n ei ddedfrydu i garchar am oes – ond bod yn rhaid iddi benderfynu ar yr isafswm y bydd yn gorfod treulio dan glo.

Roedd Terence Whall, therapydd chwaraeon o Lundain yn wreiddiol, wedi gwadu ei fod erioed wedi cwrdd â Gerald Corrigan. Bu farw’r pensiynwr o’i anafiadau yn yr ysbyty ar Fai 11.

Ond clywodd y llys bod Terence Whall, wedi aros y tu allan i gartref Gerald Corrigan a disgwyl iddo ddod allan o’r tŷ i drwsio ei ddisg lloeren.

Apêl

Yn dilyn y dyfarniad mae partner Gerald Corrigan, Marie Bailey, 64, wedi galw ar Terence Whall i ddatgelu pam ei fod wedi ei lofruddio.

Dywed Heddlu’r Gogledd bod ymchwiliad ar y cyd yn parhau yn dilyn honiadau bod y cwpl wedi rhoi £250,000 i Richard Wyn Lewis sydd wedi’i gael yn euog o dwyll ariannol.