Mae pum gorymdaith Gŵyl Dewi wedi eu trefnu yng Ngheredigion – yn nhrefi Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Tregaron, Aberteifi ac Aberaeron.

Daeth gorymdeithiau yn fwyfwy cyffredin ledled y wlad, wrth i bobol o bob oed ddod at ei gilydd er mwyn dathlu diwrnod ein nawddsant a’n hunaniaeth Gymreig.

“Pwrpas y digwyddiadau yw tynnu cymaint o bobl yr ardal a phosib at ei gilydd er mwyn dathlu diwrnod Nawddsant Cenedlaethol Cymru, ein hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg mewn môr o liw a chân yng nghanol ein trefi,” meddai’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

ABERYSTWYTH

Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 13:00

Yn ogystal â’r parêd a’r seremoni arferol yn Aberystwyth, bydd gig gwerin am ddim yn cael ei gynnal yn nhafarn Y Llew Du eleni. Bydd oedfa i ddilyn yn y Morlan fore Sul, 1 Mawrth.

Yn ôl Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Aberystwyth:

“Mae gorymdeithiau yn ffordd bwysig o ddangos hyder yn yr iaith a’r traddodiadau Cymreig a hefyd o gynnal undod y gymuned Gymraeg ei hiaith.”

Mae’n credu bod gwerth mewn bachu ar y cyfle i ddewis pobol leol i’w hanrhydeddu a diolch iddyn nhw.

“Mae cael ‘Tywysydd’ y Parêd yn Aberystwyth – Meirion Appleton yw’r Tywysydd eleni – yn ffordd glir ac effeithiol o ddiolch a dangos ein bod ni fel trigolion Aberystwyth yn gwerthfawrogi ymdrechion pobl yn yr ardal dros yr iaith dros ddegawdau. Mae hynny’n bwysig.”

Gallwch ddarllen hanes Meirion Appleton, yr hyfforddwr a’r trefnydd pêl-droed a fydd yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth, yn y stori yma gan Siôn Jobbins ar BroAber360:

https://broaber.360.cymru/2020/meirion-appleton-tywysydd-pared-gwyl-dewi/

LLANBEDR PONT STEFFAN

Nos Wener 28 Chwefror, 19:30

Bydd gorymdaith Llanbed yn cwrdd yn Ysgol Bro Pedr, a’r arweinwyr eleni fydd Annwen Button a Maer y Dref, Rob Phillips.

Dywedodd Rob Phillips bod y parêd, sy’n dair oed eleni, yn un o brif ddigwyddiadau’r dref, ac mae’n falch o’r ymdrech i gynnwys pobol ifanc yn y dathlu:

“Mae’n gyfle i bawb o bob oed ddod at ei gilydd i ddathlu ein Cymreictod.

“Gyda chefnogaeth Cyngor y Dref mae’r pwyllgor hefyd wedi trefnu gig yn Neuadd Victoria eleni er mwyn cynnig digwyddiad Cymraeg i bobl ifanc lleol fel rhan o’r dathliadau.”

TREGARON

Dydd Gwener 28 Chwefror, 14:00

Ar drothwy ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Thregaron, fe fydd Parêd Gŵyl Dewi hefyd yn cael ei gynnal ar hyd strydoedd y dref eleni.

Bydd yr orymdaith yn dechrau y tu fas i Ysgol Henry Richard ac yna’n symud i sgwâr y dref o flaen cerflun Henry Richard, lle bydd seremoni ac adloniant ysgafn.

“Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i ni ddathlu dydd ein Nawddsant ac i ymfalchïo yn ein treftadaeth a diwylliant,” meddai Cynghorydd Sir Tregaron, Catherine Hughes.

Dywedodd Dorian Pugh, Prifathro Ysgol Henry Richard, ei fod ef a disgyblion yr ysgol wedi cyffroi.

“Rydym wir yn edrych ymlaen at y Parêd Gŵyl Dewi lle bydd ein disgyblion yn cofio ac yn dathlu ein Nawddsant Cenedlaethol. Gobeithir gweld y gymuned yn dod at i gilydd ar gyfer dathliad.”

ABERAERON

Dydd Llun 2 Mawrth, 9:30

Yr orymdaith hynaf?

Sefydlwyd Gorymdaith Gŵyl Dewi Aberaeron gan y diweddar Alun Williams, cyn-bennaeth Ysgol Gynradd Aberaeron, yn 1979 ac mae’n ddigon posib mai dyma’r orymdaith hynaf o’i math yng Nghymru.

Dros 40 mlynedd ers yr orymdaith gyntaf, Ysgol Gynradd Aberaeron sydd yn parhau i drefnu’r orymdaith ac eleni maen nhw yn cydweithio gydag Ysgol Gyfun Aberaeron a Cered, y Fenter Iaith leol, i ddatblygu’r digwyddiad.

O ganlyniad, bydd Gorymdaith Gŵyl Dewi Aberaeron 2020 ychydig yn wahanol i’r arfer.

Bydd y ddwy ysgol yn gorymdeithio i Sgwâr Alban lle bydd y ddwy yn uno i gyd-gerdded i faes parcio Pwllcam, cyn cynnal seremoni fer i gloi’r digwyddiad.

Dywedodd Mair Jones,  Pennaeth dros Dro Ysgol Gynradd Aberaeron, bod hwn yn ddiwrnod pwysig yng nghalendr yr ysgol a’r dref.

“Mae parêd Gŵyl Dewi wedi bod yn digwydd yn nhref Aberaeron ers canol y 1970au, pan drefnwyd bod plant yr Ysgol Gynradd yn mynd o gwmpas y dref yn y bore.

“Mae Aelodau Pwyllgor Cymreictod yr ysgol Gynradd wedi cydweithio gyda Cered i rannu pamffledi yn siopau a busnesau’r dref yn eu hannog i chwarae cerddoriaeth Gymraeg, i arddangos baneri ac i addurno eu ffenestri yn bwrpasol.

“Mae croeso cynnes i drigolion a chymdeithasau lleol i ymuno a ni. Mae aelodau Cyngor y Dref ac Elin Jones AC hefyd yn rhan o’r orymdaith.”

ABERTEIFI

Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 10:30

Yn dilyn llwyddiant Parêd Gŵyl Dewi cyntaf Aberteifi yn 2019, mae gorymdaith wedi ei threfnu yn y dref eto eleni.

Bydd yr orymdaith, sydd wedi ei threfnu gan Cered a Theatr Byd Bychan, yn ymgynnull yn Neuadd y Dref, gan orffen gyda seremoni arbennig yng Nghastell Aberteifi dan ofal y Prifardd Ceri Wyn Jones.