Llun Sharon Morgan ar glawr ei hunangofiant
Mae un o actoresau Cymraeg gorau Cymru wedi disgrifio sut yr oedd peryg iddi droi ei chefn ar yr iaith pan oedd yn ferch ifanc.

Yn ôl y genedlaetholwraig Sharon Morgan y protestio tros y Gymrag yn yr 1960au oedd wedi newid cwrs ei bywyd pan oedd hi tuag 16 oed.

Wrth gyhoeddi ei hunangofiant newydd, Hanes Rhyw Gymraes – sy’n cael ei lansio heno – mae wedi disgrifio sut yr oedd hi’n wfftio’r Gymraeg ac yn siarad Saesneg gartref.

“Do’n i ddim yn gweld pwynt siarad Cymraeg, ro’dd e’n amherthnasol ac yn hen ffasiwn. Ro’n i’n cael problem gwahaniaethu rhwng y ‘ti’ a’r ‘chi’, ro’n i’n derbyn addysg yn Saesneg, yn siarad Saesneg gyda fy mam a fy mrawd,” meddai.

“Ond chware teg i mam, pan ddo’th y chwyldro, pan ro’n i tua un ar bymtheg mi drodd i siarad Cymraeg â fi ac ro’dd ei hiaith hi’n bert ofnadw, yn raenus ac yn llawn idiomau Dyffryn Aman. Erbyn heddiw dw i’n cyfri fy hun yn gwbl ddwyieithog.”

O Lan Aman i’r llwyfan

Mae hefyd wedi datgelu ei bod wedi cymryd dwy flynedd iddi orffen yr hunangofiant sy’n olrhain ei hanes o’i phlentyndod yng Nglan Aman i actio yn y ffilm Grand Slam ac ennill gwobrau BAFTA am ei pherfformiadau yn y gyfres Tair Chwaer a’r ffilm Martha, Jac a Sianco.

Mae hi hefyd wedi ymddangos mewn rhaglenni Saesneg fel Belonging, A Mind to Kill, ac a Torchwood yn ogystal â dramâu Cymraeg fel Alys.

Roedd Sharon Morgan hefyd yn un o sylfaenwyr cwmni Theatr Bara Caws, ac mae bellach yn  ddramodydd ei hun ac wedi cyfieithu nifer o ddramâu i’r Gymraeg, gan gynnwys Shinani’n Siarad (Vagina Monologues), a enillodd wobr Cynhyrchiad Gorau Theatr Cymru yn 2004.

‘Cyffrous’

“Mae hi’n gyffrous i bawb fyw yng Nghymru yn Gymraeg nawr – y gerddoriaeth, nofelau, bywyd cymdeithasol, ysgolion,” meddai.

“Mae pobol yn eu tridegau a iau yn cymryd S4C yn ganiataol, mae pobol ifainc yn eu harddegau yn cymryd y Cynulliad yn ganiataol, tra mod i’n eu gweld fel gwyrthiau.

“Mae’n anhygoel beth sydd wedi digwydd yng Nghymru – ry’n ni wedi troi’r wlad rownd.

Bydd Sharon Morgan yn lansio’i hunangofiant heno yn am 7pm yn Nhafarn y Mochyn Du, Caerdydd.  Y Lolfa sy’n cyhoeddi.

Mae cyfweliad gyda Sharon Morgan yn rhifyn yr wythnos o Golwg