Mae aelod o Blaid Cymru a gafodd ei gwahardd yn sgil honiadau o wrth-Semitiaeth yn bwriadu sefyll i fod yn Aelod Cynulliad y blaid.

Cafodd Sahar Al-Faifi ei gwahardd wedi iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi postio negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd, yn ei geiriau hithau, yn “croesi’r ffin” at wrth-semitiaeth.

Dilëwyd y negeseuon flynyddoedd yn ôl, mi ymddiheurodd amdanyn nhw a’r wythnos ddiwethaf, datgelodd ei bod hi wedi cael dychwelyd i’r Blaid.

Bellach, mae hi wedi lansio’i hymgyrch i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad tros ranbarth Canol De Cymru.

Ei nod, meddai ar y cyfryngau cymdeithasol, yw bod yr Aelod Cynulliad benywaidd cyntaf o leiafrif ethnig yng Nghymru.