Mae ffigurau S4C a gafodd eu cyhoeddi ddoe (dydd Mercher, Chwefror 26) yn cyfri nifer y cyfrifon sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Clic, ac nid nifer y gwylwyr.

Dyna ddywed y sianel wrth golwg360 ddiwrnod ar ôl iddyn nhw gyhoeddi’r garreg filltir o 100,000 o danysgrifiadau i’r gwasanaeth ar y we.

Yn ôl llefarydd, does ganddyn nhw ddim cymhariaeth uniongyrchol rhwng ffigurau Clic a ffigurau gwylio’r sianel dros y chwe mis dan sylw.

Fel gwasanaeth ar y we, gall unrhyw un yn unrhyw ran o’r byd wylio Clic, tra bod ffigurau gwylio’r sianel wedi’u cyfyngu i wledydd Prydain yn unig.

Ond maen nhw’n dweud bod gwasanaeth Clic wedi arwain at ddenu mwy o wylwyr i’r sianel.

‘Cyfnod o newid sylweddol’

“Mae’r ffigwr 100,000 yn cyfeirio at y nifer o gyfrifon S4C Clic sydd wedi eu creu,” meddai llefarydd.

“Nid yw’n adlewyrchu, yn uniongyrchol, ffigurau gwylio.

“Mae gwylio’r teledu mewn cyfnod o newid sylweddol a bydd yn cymryd amser cyn ein bod yn gallu gweld patrymau pendant yn datblygu.

“Teledu sydd dal i ddod â’r mwyafrif llethol o holl oriau gwylio i gynnwys S4C, ond rydym wedi gweld cynnydd o 25% mewn gwylio drwy S4C Clic a BBC iPlayer dros y flwyddyn ddiwethaf.”