Bydd cynigion Brexit diweddaraf Boris Johnson yn “niweidio economi a swyddi Cymru”, yn ôl Mark Drakeford.

Daw sylw Prif Weinidog Cymru wedi i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi ei blaenoriaethau yn ei thrafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd.

Taro bargen masnach yw nod y trafodaethau, ac mi allai Boris Johnson, Prif Weinidog Prydain, gefnu arnyn nhw ym mis Mehefin os na fydd “bras amlinelliad” o ddêl erbyn hynny.

Ond mae Mark Drakeford wedi beirniadu’r cyhoeddiad hwnnw am ei fod yn teimlo mai taro dêl dda ddylai fod yn flaenoriaeth, nid taro dêl yn fuan.

Y feirniadaeth

“Maen nhw’n brysio i sicrhau cytundeb – unrhyw gytundeb – erbyn diwedd y flwyddyn,” meddai.

“Mae’r uchelgais gwleidyddol hwnnw’n amlwg yn bwysicach iddyn nhw na sicrhau cytundeb sydd er budd holl genhedloedd y Deyrnas Unedig.

“Mae’r cynigion yn rhoi ideoleg o flaen bywoliaeth pobol…

“Nid yw’n bosibl i’r Deyrnas Unedig gerdded i ffwrdd o’r economi agos, integredig sydd gennym ag Ewrop a gobeithio na fydd y cyhoedd yn sylwi.”