Bydd y gwaith i wella ffordd yr A55 o Aber i Dai’r Meibion yn dechrau ddiwedd Mawrth, yn ôl Ken Skates.

Mi fydd y cynllun yn gwella diogelwch ar hyd 2.2km o’r lôn, gan ddileu mynediad uniongyrchol oddi ar yr A55, yn ogystal ag wyth gwagle yng nghanol y ffordd sydd ar hyn o bryd yn gadael i gerbydau amaethyddol araf groesi.

Bydd y cynllun hefyd yn lleihau’r posibilrwydd o lifogydd yn yr ardal wrth wella’r system ddraenio.

Mae’r gwaith oedd wedi ei wneud yn barod ar  y system ddraenio yn 2017 wedi dangos gwelliannau.

Er mwyn lleihau’r perygl o amharu ar deithwyr gymaint ag sy’n bosibl, bydd:

  • gwaith cychwynnol yn digwydd oddi ar yr A55
  • rheolaeth traffig dros dro ar waith yn yr hydref
  • traffig pedair lôn yn ystod y dydd
  • y gwaith gael ei gwblhau erbyn Hydref 2021

Mae’r cynllun £29m yma yn rhan o’r pecyn £1bn o welliannau mewn trafnidiaeth a seilwaith ffyrdd ar waith ar draws gogledd Cymru dros y ddeng mlynedd nesaf.

Heddiw (dydd Iau, Chwefror 27), bydd Ken Skates yn ymweld â gweithle ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd sydd yn werth £135m.

Yn ôl y gweinidog, dyma un o’r prosiectau seilwaith mwyaf sydd ar waith yng Ngogledd Cymru wrth i’r Llywodraeth geisio lleihau traffig a gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau lleol.

Mae yno hefyd waith helaeth yn cael ei wneud yng Nghonwy sydd werth £766,000.

Ac yn ogystal a chychwyn gwaith ar yr A55 yn Nhai’r Meibion, mae Ken Skates yn bwriadu cyhoeddi drafft sydd yn amlinellu gwaith ar yr A494 yn Dee Bridge a chynnal arddangosfeydd cyhoeddus i gyflwyno gwybodaeth am y gwelliannau i Goridor Sir y Fflint yn y gwanwyn.

Trenau

Cyhoeddodd hefyd fod bwriad i fuddsoddi mewn gwasanaethau a llwybrau ar gyfer trenau, a chynlluniau ar gyfer bysus a ffyrdd er mwyn gwella’r mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.

“Rydw i’n galw ar Lywodraeth Prydain i chwarae eu rhan nhw yn ogystal, gan roi’r un fath o fuddsoddiad ag y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i drafnidiaeth yr ardal,” meddai Ken Skates.

“Mae’n hen bryd fod llinell arfordir Gogledd Cymru er enghraifft yn derbyn y sylw a’r buddsoddiad mae’n ei haeddu ac yn cael ei thrydanu.”