Mae Christina Rees, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan, yn galw ar Lywodraeth Geidwadol Prydain i “ddychwelyd” £200m i Gymru fel rhan o’r ymateb i’r llifogydd diweddar.

Mae hi’n dweud bod Llywodraeth Prydain wedi tynnu £200m yn ôl o’r llywodraeth yng Nghaerdydd ym mis Ionawr o ganlyniad i fformiwla Barnett.

Daw ei sylwadau hefyd ar ôl i Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, gyhuddo Boris Johnson o fod yn “brif weinidog rhan amser” yn sgil ei ddiffyg ymateb i’r llifogydd.

Yn ôl y gweinidog David TC Davies, mae Llywodraeth Prydain yn cefnogi Cymru yn sgil y llifogydd ac yn barod i gynnig cymorth ariannol.

“Ond mae angen iddyn nhw gyflwyno costau ac egluro sut yn union y bydd yr arian hwnnw’n cael ei wario,” meddai.

Mae Christina Rees wedi gofyn am ffigurau gan Lywodraeth Prydain ynghylch faint o bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, a faint o arian sydd wedi’i golli o economi Cymru o ganlyniad.

“Mae’r prif weinidog Mark Drakeford a’i weinidogion yn Llywodraeth Cymru wedi ymweld â dioddefwyr y llifogydd ac eisoes wedi addo £10m cychwynnol o gyllideb gyfyng iawn Llywodraeth Cymru ar ôl deng mlynedd o doriadau’r Torïaid,” meddai.

“Ond fis diwethaf, ar fyr rybudd, fe gymerodd y Trysorlys £200m yn ôl oddi ar Lywodraeth Cymru o ganlyniad i ail-gyfrifo canlyniadau Barnett.

“Dydy’r prif weinidog ddim wedi trafferthu i ymweld â dioddefwyr llifogydd yng Nghymru, ond fe allai o leia’ ddychwelyd yr arian hwn i Lywodraeth Cymru i helpu i lanhau’r difrod?”

Ymateb David TC Davies

Yn ôl David TC Davies, does dim modd dweud yn gwbl sicr beth fydd cost derfynol y llifogydd.

“Rydyn ni eisoes wedi gweithredu i sicrhau na fydd pobol sy’n derbyn iawndal yn gweld unrhyw effaith ar fudd-daliadau, rydym yn sefyll yn gadarn gyda Chymru ond… fe fyddai’n amhosib i ni fynd i orymdeithio i Gymru a dweud wrth Lywodraeth Cymru beth i’w wneud mewn maes sydd wedi’i ddatganoli.”

Ymateb Ysgrifennydd Cymru

Mae ei sylwadau wedi’u hategu gan Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru.

“Mae’n deg dweud fod Llywodraeth Cymru’n dal i asesu maint y difrod a beth yn union sydd angen cael ei wneud er mwyn ei ddatrys,” meddai.

“Rydym wedi dweud, a byddwn yn ailadrodd ein hymrwymiad, pan ddaw Llywodraeth Cymru aton ni gyda ffigurau cwbl sicr ac yn egluro beth yn union maen nhw ei angen gennym, byddwn ni’n barod i helpu ym mha bynnag ffordd allwn ni.

“Rhaid i fi ddweud, pe bawn i’n fusnes neu’n unigolyn sydd wedi’i effeithio gan ddigwyddiadau’r diwrnodau diwethaf, y peth olaf fyddwn i’n disgwyl ei glywed yn y Tŷ hwn yw chwarae gwleidyddiaeth ar sefyllfa anodd iawn.”