“Mae ein partneriaid pwysicaf dros afon Hafren”

Diweddarwyd  
Caerdydd

Cyngor Caerdydd

Logo’r Cyngor

“Mae ein partneriaid pwysicaf dros afon Hafren”, yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas sydd wedi ymateb i lansio prosbectws Porth y Gorllewin.

Mae’r Porth Gorllewinol yn cwmpasu de Cymru a gorllewin Lloegr, a bwriad y bartneriaeth newydd yw hybu’r economi leol wrth i’r rhanbarthau trawsffiniol weithio gyda’i gilydd.

Mae’r prosbectws newydd yn amlinellu prif weledigaeth ac uchelgais y bartneriaeth economaidd hon.

Mae wedi cael ei ddatblygu ar sail trafodaethau rhwng awdurdodau lleol, busnesau, LEP a rhanbarthau dinesig.

Erbyn 2030, mae partneriaeth Porth y Gorllewin yn honni y daw’r weledigaeth newydd yma â mwy na £56bn i economi Prydain.

Blaenoriaeth i dri pheth

Yn y prosbectws, bydd Porth y Gorllewin yn rhoi blaenoriaeth i:

  • gysylltedd
  • torri tir newydd
  • a chydweithio cenedlaethol wrth fasnachu a buddsoddi

“Mae Caerdydd yn brifddinas gyda chysylltiadau ar draws Cymru a’r byd,” meddai Huw Thomas.

“Ond o bosib, mae ein partneriaid pwysicaf dros yr afon Hafren.

“Rydym yn dod ynghyd i ennill buddsoddiadau rhyngwladol ac arian i greu’r seilwaith gan y llywodraeth, arian yr ydym ni yma yn ne Cymru a’r Gorllewin ei angen fel ein bod yn gallu arwain chwyldro ddiwydiannol sero net sydd yn creu Prydain lannach a thecach.”

Creu twf o Abertawe i Swindon yw’r nod yng Nghymru, yn ôl cadeirydd Porth y Gorllewin.

“Mae ein prospectws yn cynnig darlun o’r daith yr ydym  ni yn ei dilyn gyda’n gilydd yn y bartneriaeth rhwng busnesau ac awdurdodau, sydd yn benderfynol o greu twf o Abertawe i Swindon, Cheltenham i Weston,” meddai Katherine Bennett.

Cymru

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones