Bathodyn Gwasanaeth Tan De Cymru
Mae dyn wedi cael ei ladd yng Nghasnewydd heddiw, ar ôl i gât ddisgyn ar ei ben a’i wasgu.

Cafodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu galw i’r digwyddiad yn ardal Crindai yng nghanol Casnewydd am hanner awr wedi pump y bore yma.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau bod “dyn yn gaeth o dan gât fawr fetel”.

Dywedodd llefarydd o’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wrth Golwg 360 eu bod nhw’n “ymwybodol o’r digwyddiad ac yn gwneud ymchwiliadau cychwynnol”.

Heddlu Gwent sy’n arwain yr ymchwiliad ar hyn o bryd ac maen nhw wedi cadarnhau bod y dyn yn cludo nwyddau i le ar Stryd Agincourt, Crindai, a bod rhaid symud gatiau trwm i wneud hynny.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau bod y gŵr yn 42 oed ac yn byw yn ardal Merthyr Tudful. Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod ei deulu nawr yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.