Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn ei pholisi addysg gan ddweud ei fod yn “codi safonau a gwella cyfleoedd bywyd”.

Daw ymateb ar ran y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, ar ôl i gorff arolygu ESTYN ddweud eu bod nhw am roi’r gorau i gynnal archwiliadau dros dro ym mis Medi ac yn lle hynny, ymweld ag ysgolion yn gyson er mwyn adnabod heriau.

Yn ôl Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddi, mae angen i ysgolion roi blaenoriaeth i’r hyn y bydd dysgu ac addysgu yn ei olygu yn y dosbarth.

Dywed fod llawer o ddatblygiadau wedi eu gwneud yn y sylfaeni, a bod yna gynnydd yn yr ymdeimlad o gyd weithio, ond fod angen i ysgolion afael yn y cyfle i ganolbwyntio ar gynllunio tymor hir.

Adroddiad blynyddol

Yn ei Adroddiad Blynyddol a gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 25), roedd Meilyr Rowlands yn canmol y datblygiadau ym myd addysg dros y dair mlynedd diwethaf wrth ddiwygio addysg yng Nghymru.

“Rydym ar ganol newid hanesyddol o bwys ym myd addysg Cymru,” meddai.

“ Mae cynnydd mewn momentwm yn ddiweddar, gan ddod a gwell cydweithrediad rhwng sefydliadau addysg cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.”

“Nawr mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru wedi ei gyhoeddi, gall pob ysgol feddwl o ddifri am beth mae’r cwricwlwm newydd yn ei olygu i gymuned eu hysgol nhw a sut y gallan nhw wella dysgu ac addysgu.”

Heriau

Ond dywed hefyd fod yna heriau dal yn bodoli, a bod rhai ysgolion uwchradd yn dal i beri consyrn ac nad ydi’r bwlch tlodi rhwng disgyblion o dan anfantais a’u cyfoedion wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf.

“Ni all yr ysgolion wneud hyn i gyd ar eu pen eu hunain,” meddai.

“Mae’n rhaid i weddill y system weithio gyda’i gilydd i gefnogi ein gweithlu addysg wrth adnewyddu addysg yng Nghymru.

“Dyna pam mae Estyn yn camu yn ôl rhag cynnal arolygiadau o fis Medi ymlaen, ac yn hytrach ymweld ag ysgolion a chreu darlun cenedlaethol o’r hyn sydd yn gweithio’n dda wrth baratoi at y cwricwlwm ac adnabod yr heriau.”

Ymateb

“Mae ein newidiadau polisi yn codi safonau a gwella cyfleoedd bywyd i’n holl fyfyrwyr,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Er enghraifft, y llynedd, cyflawnodd 80% o ddisgyblion oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o leiaf un TGAU gwyddoniaeth, o’i gymharu â dim ond 45% yn 2015.

“Dangosodd adroddiad PISA y llynedd hefyd fod y bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru yn llawer culach na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig neu’n rhyngwladol, sy’n golygu bod cefndir plentyn yng Nghymru yn cael llawer llai o effaith ar eu perfformiad na mewn gwledydd eraill.”