Mae cwmnïau blaenllaw a sefydliadau addysg Cymru’n dod ynghyd er mwyn creu llwybr newydd at yrfa mewn technoleg.

Mae menter Coleg Seiber Cymru yn cynnig cannoedd o oriau o fewnbwn gan ddiwydiant yn ogystal â chwricwlwm newydd sydd wedi’i ddatblygu gan y colegau a Phrifysgol De Cymru.

Bydd y cwrs yn arwain at ennill Diploma Estynedig BTEC, cymhwyster sy’n cyfateb i 3 Lefel A.

Ym mis Medi, bydd dwy garfan o 20 o fyfyrwyr yn dechrau astudio yng Ngholeg Penybont ac ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, Coleg Gwent.

Admiral, Fujitsu a Thales yw’r partneriaid o fyd busnes sydd wedi bod ynghlwm â llunio’r cwricwlwm.

Yn y flwyddyn gyntaf, mi fyddan nhw’n cynnig dros fil o oriau o fewnbwn i’r cwrs gan gynnwys mentora, darlithoedd, lleoliadau gwaith a phrofiad yn y diwydiant i’r myfyrwyr hynny sydd yn dewis bod yn rhan o Goleg Seiber Cymru.

Datblygu sgiliau mewn diwydiant sy’n tyfu

“Mae menter Coleg Seiber Cymru yn golygu bod partneriaid o fewn y diwydiant yn dod ynghyd i gydweithio gyda’r colegau lleol er mwyn cynnig rhywbeth newydd a pherthnasol ar gyfer datblygu’r sgiliau sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol,” meddai Steve Cottrell, prif swyddog Grŵp Diogelwch Gwybodaeth i Admiral a chadeirydd pwyllgor gwaith y Coleg Seiber.

“Mae meithrin dawn pobl ifanc yn eu harddegau o fudd cyffredin i ni; trwy roi cyfle i iddyn nhw ystyried gyrfa mewn seiber yn ogystal â chynnig yr addysg a’r profiad sydd ei angen er mwyn gwireddu’r uchelgais honno.

“Mae Coleg Seiber Cymru yn gynllun arloesol gwych sy’n cael ei yrru gan yr hyn sydd ei angen arnom ym myd diwydiant a thechnoleg,” meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg.

“Mae seiber yn fwy na dim ond bod yn ddiogel ar lein, mae’n cyffwrdd â phob rhan o’n bywydau bob dydd.

“Os medrwn ni gynnig llwybr newydd i bobl ifanc yn eu harddegau i astudio seiber, un ai  mewn addysg uwch neu drwy fynd yn syth i mewn i’r diwydiant, byddwn yn rhoi mantais go iawn iddyn nhw mewn diwydiant pwysig sy’n tyfu.”